Mae dyn busnes lleol sy’n arbenigo ym maes twristiaeth antur yn dweud bod angen dyfeisio dulliau newydd o fynd i’r afael â phroblem ail gartrefi a diffyg cyfleoedd i bobol fyw a gweithio yn Nhyddewi.
Roedd Andy Middleton, sy’n rhedeg cwmni cynaladwyedd, addysg ac ysbrydoli TYF yn y ddinas ers 35 o flynyddoedd, yn un o’r siaradwyr yng Ngŵyl Syniadau Tyddewi yn ddiweddar, lle bu’n holi’r Athro Terry Stevens a oes angen treth dwristiaeth i ddatrys y sefyllfa sy’n effeithio nid yn unig ar Dyddewi ond rhannau eraill o Gymru hefyd.
Mae antur wrth galon TYF, sy’n cynnig cyfleoedd i bobol arfordiro, sef “y weithgaredd wallgo’ o sgramblo ar waelod clogwyni’r môr mewn siwtiau gwlyb a chit amddiffyn yn archwilio’r ogofau a’r ceunentydd yn closio at fyd natur”, yn ôl Andy Middleton, sydd wedi bod yn siarad â golwg360.
Yn ei hanfod, mae twristiaeth antur yn defnyddio teithio a thwristiaeth i gysylltu pobol â’r byd natur o’u cwmpas, fel yr eglura.
“Fel arfer, bydd pobol yn gwneud hynny fel anturiaethwyr annibynnol pan fo ganddyn nhw’r hyder, y sgiliau a’r gallu i wneud hynny drostyn nhw eu hunain, neu fe fyddan nhw’n troi at gwmnïau gweithredol fel ni os ydyn nhw’n dysgu pethau am y tro cyntaf neu’n dymuno datblygu eu sgiliau ymhellach, fel arwain neu dywys grwpiau,” meddai.
‘Caru natur yn newid ffordd o fyw’
Ond mae TYF yn gwneud mwy nag arfordiro hefyd, fel yr eglura Andy Middleton, sy’n dweud bod gan y cwmni ddau brif nod.
“Un yw helpu pobol i gwympo mewn cariad gyda byd natur, cymaint felly nes ei fod yn newid y ffordd maen nhw’n byw,” meddai.
“A’r ail beth yw rhoi digon o hyder i bobol fel eu bod nhw’n gwybod yn union sut maen nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth bob dydd o ran cael dylanwad ar yr argyfwng hinsawdd a byd natur.
“Felly i ni, mae’r cysylltiad â byd natur yn hanfodol bwysig ac yn rhan o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud pryd bynnag y daw’r cyfle wrth i ni weithio gyda’r miloedd o bobol rydyn ni’n mynd â nhw allan bob blwyddyn.
“Nid dyna beth mae pobol fel arfer yn meddwl amdano wrth archebu lle i fynd i gaiacio neu arfordiro neu syrffio ar yr arfordir.”
Mwy o adnoddau, neu gwell defnydd ohonyn nhw?
Yn ôl Andy Middleton, mae angen ailfeddwl am y ffordd y caiff adnoddau eu defnyddio er mwyn helpu cymunedau fel Tyddewi i ffynnu.
“Un peth dw i’n sicr yn ei gylch yma yng Nghymru yw nad oes gobaith fyth y bydd gan y parciau cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol na Chyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau i wneud beth sydd angen iddyn nhw ei wneud ar eu pennau eu hunain,” meddai.
“Rhan fawr o hynny yw fod ein heconomi o hyd wedi’i siapio i gynhyrchu natur.
“Mae angen i bethau allweddol ddigwydd, yn fy marn i, ac un ohonyn nhw yw fod angen troi busnesau i fod yn atgynhyrchiol yn eu dulliau er mwyn darganfod sut maen nhw’n gallu cael effaith net bositif ar natur a chymunedau, a’u bod nhw’n graff yn y ffordd maen nhw’n gweithredu.
“I ni yn TYF, un o’r ffyrdd o wneud hynny yw gweithio fel B Corp, a’r ail beth yw gweld a allwn ni annog twristiaid i wneud cyfraniad gwirfoddol tuag at brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth maen nhw’n gallu uniaethu â nhw, ac y gallan nhw weld bod eu harian yn gwneud gwahaniaeth yn y llefydd maen nhw’n ymweld â nhw ac yn eu trysori.
“Mae [sut i annog pobol i gyfrannu] yn rywbeth rydyn ni ar y daith o geisio’i ddarganfod ar hyn o bryd.”
Twristiaeth er lles, ac nid ar draul, y gymuned
Cafodd cyfarfod cymunedol ei gynnal yn Nhyddewi ar Ebrill 6, fel rhan o ymchwil gan drigolion y ddinas ynghylch sut i weddnewid twristiaeth fel ei bod yn ddiwydiant sy’n helpu’r gymuned, ac nid yn ei dinistrio.
Roedd tua 100 o bobol yn y cyfarfod, yn ôl Andy Middleton, fu’n egluro un o brif casgliadau’r trafodaethau.
“Mater o bwys sylweddol i bobol leol ar hyn o bryd yw, hyd yn oed mewn cartrefi lle mae’r ddau riant yn gweithio, does fawr ddim gobaith i’w plant allu byw yn Nhyddewi oherwydd bod prisiau eiddo’n cael eu cynyddu cymaint gan AirBnB a pherchnogion ail gartrefi, ac yn y blaen,” meddai.
“Felly un o’r syniadau yw dweud bob blwyddyn, efallai, a fyddai modd i ni godi £50,000 neu £100,000 drwy gyfraniadau gwirfoddol gan yr hanner miliwn o dwristiaid sy’n dod yma bob blwyddyn a defnyddio’r arian hwnnw i brynu sawl eiddo ar y farchnad agored i’w rhoi ar rent hirdymor i bobol leol gael byw ynddyn nhw, fel eu bod nhw a’u plant yn gallu byw a gweithio y nein dinas a’n cymuned.”
Yn ôl Andy Middleton, mae nifer sylweddol o bobol yn penderfynu byw yn Nhyddewi oherwydd gwaith TYF, ond mae anfanteision i hynny hefyd.
“Un o’r pethau fu’n rhaid i ni ei wneud ddiwedd y llynedd oedd gofyn i bump o fusnesau lleol roedden ni’n rhentu swyddfeydd iddyn nhw i wagio’r adeilad fel bod modd troi’r gofod yn llety i ni ei gael oherwydd, os na wnawn ni hynny, all ein staff ni ddim cael unrhyw le i fyw.
“Heb hynny, fyddech chi ddim yn gallu cael pobol yn byw a gweithio yma, ac mae hynny’n cael effaith negyddol, ac rydyn ni’n ymwybodol o hynny, ond roedden ni’n teimlo mai’r peth gorau i’w wneud oedd gofalu am ein staff yn gyntaf yn hytrach na staff busnesau eraill.
“Mae hyn yn digwydd mewn cymunedau ledled sir Benfro a Chymru, ac mae angen dull cwbl wahanol.”
Beth yw’r ateb, felly?
“Un o’r enghreifftiau arall ddaeth o’r cyfarfod oedd disodli’r model AirBnB cyfalafol gyda model cymunedol, lle mae’r elw a wneir o brosiectau’n cael ei ailfuddsoddi mewn cymunedau lleol a phrosiectau cymunedol, boed nhw’n brosiectau amgylcheddol, diwylliannol, tai ac ati,” meddai Andy Middleton wedyn.
“Fe wnawn ni ddechrau ar hyn ac ymchwilio iddo fe’n iawn, os nad cytuno arno fe.
“Dw i’n dyfalu, pe bai tîm bach o bobol yn gallu darganfod digon am opsiwn amgen i fodel AirBnB ac yn gallu cyfleu’r wybodaeth i ddigon o bobol dros y chwe mis nesaf, yna erbyn i’r archebionb ar gyfer y flwyddyn nesaf ddechrau dod i mewn yn yr hydref eleni, pe baen ni’n gallu symud 30, 40 neu 50 eiddo i’r model AirBnB cymunedol, dw i’n eithaf siŵr y bydd digon o alw gan bobol i aros yma fel eu bod nhw’n dod o hyd i’r model ar y we ac yn dechrau archebu.
“Felly, o fewn blwyddyn, fe allech chi wneud gwahaniaeth sylweddol a dw i’n gweld yr haf a’r Pasg yma fel adegau pan allwch chi ddechrau cael sgyrsiau gwahanol gyda’n hymwelwyr, a dechrau dweud, pe bai gennym ni’r cynllun gwirfoddol yma, o dan ba amodau fyddech chi’n fodlon buddsoddi £1 yma ac acw, neu os ydych chi’n berchen ail gartref, a fyddech chi’n fodlon buddsoddi rhywbeth fel 10% o werth eich eiddo mewn prosiect cymunedol sydd wedi’i reoli a’i lywodraethu’n briodol, lle byddwch chi’n derbyn llog o 2-3% gan wybod fod eich ail gartref, mewn egwyddor, yn cyfrannu at alluogi pobol eraill i fyw yma hefyd?
“Yn sir Benfro ac yng Nghernyw, fel rydyn ni’n gwybod, mae yna nifer fach o eiddo ar rent hirdymor, a gallwch chi ddeall hynny o safbwynt masnachol yn seiliedig ar incwm yn unig.
“Ond pam ar wyneb y ddaear fyddech chi’n rhoi eiddo pedair ystafell wely ar rent am £600-800 y mis pan allwch chi ennill £800 mewn pedair noson ar AirBnB?
“Dw i jyst yn meddwl bod angen i ni gymryd perchnogaeth o’r llefydd hynny a’u tynnu nhw allan o’r farchnad, a’u rhoi nhw’n ôl fel tai lleol fel rhan o fodel cymunedol, cydweithredol gwahanol.”