Mae set newydd o dermau Cymraeg wedi cael eu hychwanegu at y geiriadur fel rhan o waith datblygu ap i helpu drymwyr i ddylunio offerynnau newydd.

Ar ôl datblygu’r ap, fe wnaeth Rhys Thomas a Geraint Frowen, sylfaenwyr cwmni Tarian Drums ym Mhont-y-clun, sylwi nad oedd yna gyfieithiadau uniongyrchol ar gyfer mathau o ddrymiau a gwahanol rannau ohonyn nhw.

Er mwyn datrys y sefyllfa, fe wnaethon nhw gysylltu ag arbenigwyr gyda’r Termiadur Addysg.

Mae’r termau newydd yn cynnwys:

Bearing Edge – Ymyl y Gragen

Butt end – Pen Bôn

Snare off/Throw off – Taflwr Tannau / Gwifrau

Snare throw/snare off lever – Lifer Taflwr Gwifrau/Tannau

Rack Toms – Tomau Mowntiedig

Floor Toms – Tomau Llawr

Tension Rods – Rhodenni Tyniant

Snare Bed – Gwely Tannau/Gwifrau

Candy Marble – Marmor Candi

‘Dewis iaith’

“Er mwyn datrys y broblem, fe gysylltom ni ag arbenigwyr gyda Y Termiadur Addysg, sy’n brosiect sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu terminoleg wedi’i safoni ar gyfer maes addysg,” meddai Rhys Thomas.

“Dyma yw’r termau i gael eu defnyddio mewn arholiadau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg ac mewn adnoddau o bob math i athrawon a disgyblion.

“Fe wnaeth y tîm yno helpu ni i roi ystyron i dermau arbenigol sy’n cael eu defnyddio gan ddrymwyr.

“Roedd hyn yn golygu bod drymwyr sy’n defnyddio’r ap yn gallu dylunio eu hofferynnau perffaith drwy’r iaith o’u dewis.”

Pwysigrwydd deall cysyniadau

Dywed Gruffudd Prys, terminolegydd ym Mhrifysgol Bangor sy’n gweithio ar Y Termiadur Addysg, nad yw cyfieithu’r geiriau o Saesneg i’r Gymraeg mor syml â dod o hyd i air fyddai’n cyfateb yn union, gan fod gan eiriau fwy nag un ystyr yn aml iawn.

“Yr enghraifft amlwg a gododd yn ystod ein gwaith gyda Tarian oedd ‘snare’,” meddai.

“Roedd yr enw Saesneg ‘snare’ yn cyfeirio at drap o gortyn neu weiren fyddech chi’n ei ddefnyddio i ‘ddal’ anifeiliaid bach yn wreiddiol, ond mae e wedi cael ei ymestyn i gyfeirio at fath o ddrwm sy’n defnyddio gwifrau oddi tano er mwyn creu sŵn penodol.

“Fodd bynnag, fedrwn ni ddim defnyddio’r gair cyfatebol Cymraeg ar gyfer ‘snare’ ar gyfer y drwm achos mae’r gair Cymraeg yn cael ei gysylltu’n gryf â theimlad o ‘drapio’.

“Fel mae hi’n digwydd, fe wnaethon ni ddarganfod bod dau derm Cymraeg yn cael eu defnyddio’n barod ar gyfer ‘snare drum’: ‘drwm gwifrau’ a ‘drwm tannau’.

“Wrth siarad efo Tarian fe wnaethon ni benderfynu bod ystyr ‘drwm gwifrau’ yn fwy addas, ac nid oedd yn awgrymu bod ‘snare drum’ yn offeryn ‘llinynnog’.

“Mae hyn yn dangos pwysigrwydd gweithio gydag arbenigwyr yn eu maes, fel Tarian, sy’n deall y cysyniadau sy’n cael eu trafod.

“Mae deall y cysyniadau’n golygu ein bod ni’n gallu dewis y term mwyaf addas i’w ddefnyddio yn ein geiriadur.”

Yr ap

Cafodd yr ap Realiti Estynedig ei ddatblygu gan Tarian gyda chymorth Canolfan Rhagoriaeth mewn Technegau Symudol a Datblygol Prifysgol De Cymru.

Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr ddylunio’u drymiau eu hunain a’u gosod nhw’n rhithiol mewn lleoliadau.

“Un o brif elfennau’r ap yw cynrychioli safon ac ymrwymiad gwasanaeth cwsmeriaid Tarian Drums yn gywir,” meddai Will Warren, Uwch Raglennydd gyda CEMET.

“Cafodd hyn ei wneud drwy adlewyrchu’r lefel o fanylder sydd ynghlwm â’r broses o ddylunio drymiau’n gywir, gan gefnogi’r Gymraeg a’r Saesneg yn llawn, a chynnig ffyrdd syml, brodorol i ddefnyddwyr gysylltu â Tarian Drums.”