Bydd Cadair Astudiaethau Basgeg i Gymru yn cael ei chreu yn sgil partneriaeth newydd.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg wedi llofnodi cytundeb newydd i gefnogi cyfnewid academaidd rhwng Cymru a Gwlad y Basg ym maes sosioieithyddiaeth, a pholisi a chynllunio iaith.

Bydd y Gymrodoriaeth yn gyfle i ysgolhaig o Wlad y Basg ddod i Gymru i ymchwilio a chyfrannu at addysgu a chyfnewid gwybodaeth yn y meysydd hynny.

Bydd y Cymrawd yn cael ei ddewis yn flynyddol drwy alwad agored, gyda’r ymgeisydd llwyddiannus cyntaf yn dod i Gymru yn hydref 2022.

Cadair Alan R King fydd ei henw, ar ôl yr ieithydd nodedig a gyfrannodd i’r maes dros bedwar degawd, gan ddysgu dros ugain o ieithoedd gan gynnwys Nawatl, Hawaieg, Hebraeg, Cymraeg a Basgeg.

‘Sicrhau dyfodol amrywiaeth ieithyddol’

Dywed Irene Larraza, Cyfarwyddwr Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg, fod sefydlu’r bartneriaeth a’r Gadair yn creu’r sefydlogrwydd strategol sydd ei angen ar gyfer cydweithio academaidd ym maes sosioieithyddiaeth, polisi iaith a chynllunio rhwng Cymru a Gwlad Basg.

“Mae hwn yn gam hanfodol tuag at sicrhau dyfodol amrywiaeth ieithyddol a’r prosesau adfywio ieithyddol sydd yn ein gwledydd,” meddai.

Bydd y Gymrodoriaeth yn “gyfle gwych” i ysgolheigion o Wlad y Basg ddod i Gymru i ymchwilio, cyfrannu at raglenni dysgu, a chymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus a phroffesiynol yn y meysydd, yn ôl yr Athro Medwin Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

“Mae hwn yn gam pwysig iawn i’r Brifysgol ac i Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg,” meddai.

“Dyma’r unig Gymrodoriaeth gan Etxepare yn y maes hwn – maes sy’n flaenoriaeth uchel i Gymru ac i Wlad y Basg – ac mae ei gosod ar lefel Cadair yn ei rhoi yn un o ddeg sy’n derbyn cefnogaeth gan Etxepare eu cefnogi mewn prifysgolion ledled y byd, yn ogystal â bod yr unig un yng Nghymru.

“Edrychwn ymlaen at groesawu’r Cymrawd cyntaf i Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn yr hydref.”

‘Conglfaen i’r berthynas’

Bydd y Gymrodoriaeth newydd wedi’i lleoli yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, a dywed yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan, fod sefydlu’r Gymrodoriaeth yn creu conglfaen ar gyfer y berthynas academaidd rhwng y ddwy wlad ym maes polisi a chynllunio iaith.

“Gwyddom pa mor hanfodol yw’r maes ymchwil hwn i’r ddwy wlad ac mae’n fraint gweithio gyda Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg ar y datblygiad strategol hwn,” meddai.

Fel ieithydd, fe wnaeth y Dr Alan R. King ddefnyddio ei ddawn ieithyddol i’w gwneud yn haws i bobol eraill ddysgu ieithoedd drwy greu adnoddau ymarferol ar gyfer ieithyddol lleiafrifol ac ieithoedd dan fygythiad.

Ysgrifennodd sawl llyfr ar yr iaith Fasgeg, a dysgodd Gymraeg ar ddechrau’r 90au wrth gyd-ddysgu Basgeg yn Aberystwyth, gan gyfrannu tuag at y gwaith o hwyluso’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg.

Fe oedd yn gyfrifol am sefydlu lefel drothwy’r iaith Fasgeg yn yr 80au, ar yr un pryd ag oedd yr Athro Medwin Hughes yn gweithio ar y lefel gyfatebol ar gyfer y Gymraeg.

“Mae’n briodol iawn bod y Gymrodoriaeth hon yn dwyn enw Alan R King,” meddai Elin Haf Gruffydd Jones wedyn.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’w deulu a’i ffrindiau agos am eu cefnogaeth ac edrychwn ymlaen yn fawr at gydweithio agos gydag ysgolheigion Basgeg yn sgil y datblygiad hwn.”