Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn lansio’u maniffesto ar gyfer yr etholiadau lleol ddydd Mercher (Ebrill 13), gan addo adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel ledled Cymru.

Bydd y maniffesto yn cael ei lansio ym Mro Morgannwg, yn etholaeth yr arweinydd Andrew RT Davies, ac mae’n canolbwyntio ar rymuso pobol leol, creu cymunedau iachach a mwy diogel, mynd i’r afael â heriau canol trefi a sicrhau swyddi lleol i bobol leol.

Mae’r maniffesto hefyd yn amlinellu cynlluniau’r blaid i ddiogelu cymunedau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a sicrhau arian teg i gynghorau ar ôl yr hyn mae’r blaid yn ei alw’n “flynyddoedd o dangyllido gan y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd”.

Ymhlith prif addewidion y maniffesto mae:

  • cefnogi cymunedau i warchod gwasanaethau lleol drwy Gronfa Berchnogaeth Gymunedol, gan helpu i brynu cyfleusterau megis y dafarn, siop neu lyfrgell leol;
  • sicrhau buddsoddiad yn ein ffyrdd a’n palmentydd er mwyn lleihau nifer y tyllau a mannau peryglus i gerddwyr;
  • cefnogi busnesau a chymunedau i wneud ardaloedd yn ddeniadol ar gyfer buddsoddiad er mwyn creu swyddi ar gyfer pobol leol;
  • cydweithio â’r heddlu ac eraill i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gollwng sbwriel, graffiti a baw cŵn;
  • sicrhau cydweithio agosach gyda’r gwasanaethau cymdeithasol a’r Gwasanaeth Iechyd i warchod y bobol fwyaf bregus yn y gymdeithas, gan roi urddas a pharch iddyn nhw;
  • grymuso cymunedau i gadw cyfleusterau hamdden ar agor er mwyn annog iechyd corfforol a meddyliol.

Daw’r maniffesto ddyddiau ar ôl i’r Ceidwadwyr Cymreig ddechrau ymgyrchu mewn digwyddiad yn Llandudno.

Bydd 669 o ymgeiswyr Ceidwadol yn brwydro am seddi yn yr etholiadau, y nifer fwyaf erioed i’r blaid.

Addewion yr arweinydd

“Mae aelwydydd ledled Cymru – a gweddill y byd – yn teimlo’r wasgfa ariannol wrth i gostau byw barhau i gynyddu diolch i faterion megis y galw byd-eang cynyddol am ynni, ymyrraeth farbaraidd Putin yn Wcráin, a’r pandemig,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi ymateb yn gyflym i helpu teuluoedd drwy gynyddu’r Cyflog Byw, torri’r dreth danwydd, codi trothwy Yswiriant Gwladol, a rhoi £150 i drigolion i’w helpu i dalu eu biliau.

“Bydd awdurdodau lleol dan reolaeth y Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn gweithio’n galed i gadw arian ym mhocedi cefn pobol drwy gadw’r dreth gyngor yn isel a sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr pan ddaw i wasanaethau’r cyngor.

“O dan Lafur, mae gweithwyr Cymru’n colli arian o’u pecynnau cyflog sydd dros £3,000 yn ysgafnach na’u cydweithwyr Albanaidd, ac mae busnesau’n cael eu cosbi gyda’r cyfraddau busnes uchaf ym Mhrydain.

“Mae’n amlwg nad oes modd ymddiried yn Llafur i helpu teuluoedd sy’n gweithio’n galed.

“Er iddyn nhw gael nifer o bwerau datganoledig i leihau’r fwrn ariannol, dydyn nhw ddim wedi gweithredu, yn hytrach maen nhw’n canolbwyntio’n ormodol ar bwyntio’r bys at Lywodraeth y Deyrnas Unedig a gwthio’r cwch i’r dŵr ar eu cynlluniau gwerth £12m y flwyddyn i gynyddu nifer y gwleidyddion yn y Senedd.”

“Materion lleol” sy’n bwysig

Yn ôl Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, materion lleol sy’n bwysig yn etholiadau’r cyngor.

“Dyw e ddim am wleidyddion ym Mae Caerdydd nac yn San Steffan, ond awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol sydd yn y lle gorau i ddeall pa arian sydd ei angen ar gyfer eu hardal leol,” meddai.

“Gwella cymunedau yw e, sicrhau bod biniau’n cael eu casglu mewn da bryd, fod tyllau yn y ffyrdd yn cael eu llenwi, fod palmentydd peryglus yn cael eu trwsio a bod pobol yn cael yr addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol maen nhw’n eu haeddu.

“Mae hi hefyd yn hanfodol bwysig fod ein cynghorau’n cael eu hariannu’n iawn fel bod modd iddyn nhw gyflwyno gwasanaethau o’r radd flaenaf i bobol leol, a dyna pam ein bod ni wedi gwneud ariannu tecach yn addewid allweddol yn ein maniffesto.

“Dim ond trwy bleidleisio dros eich hybwr Ceidwadwyr Cymreig lleol ar Fai 5 y gallwn ni wirioneddol adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel, a chyflwyno newid ystyrlon er lles trigolion ledled y wlad.”

‘Dewis clir’

“Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethon ni gyhoeddi bod y nifer fwyaf erioed o ymgeiswyr yn sefyll dros y Ceidwadwyr Cymreig yn yr etholiadau sydd i ddod, a nawr rydyn ni wedi amlinellu ein cynllun clir ar gyfer cymunedau cryfach a mwy diogel ledled Cymru, y byddan nhw’n gweithio’n ddiflino i’w cyflwyno pe baen nhw’n cael eu hethol,” meddai Sam Rowlands, dirprwy gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig sydd â’r cyfrifoldeb am etholiadau.

“Ar Fai 5, mae gan bleidleiswyr ddewis clir – naill ai blynyddoedd o ragor o fethiannau gan Lafur a Phlaid Cymru, neu mae’n bryd cael newid ystyrlon er lles cymunedau ledled y wlad gan y Ceidwadwyr Cymreig.

“Rydyn ni eisiau gweld rhwydwaith ffyrdd sy’n addas at y pwrpas, busnesau’n llewyrchus gyda mwy o swyddi i bobol leol, adfer ffydd yn ein trefi a’n pentrefi, a phobol leol wrth galon penderfyniadau.

“Drwy bleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig ar Fai 5, gallwch gyflwyno’r newid sydd ei angen ar ein cymunedau er mwyn iddyn nhw ddod yn gryfach er lles pawb.”