Mae AM wedi cyhoeddi yr hyn maen nhw’n ei alw’n “un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol hyd yma yn hanes byr y wefan a’r app”, sef adran newydd ‘Cymunedau’.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi cael eu “hysbrydoli” a’u “rhyfeddu gan y gweithgaredd llawr gwlad cydweithredol a chymunedol sydd yn asgwrn cefn i unrhyw ecosystem ddiwylliannol a chymdeithasol” ac y bydd yr adran newydd “yn rhannu a dathlu y gweithgaredd hwn”.

Bydd yr adran newydd yn cynnwys “amrywiaeth eang o sianelu newydd”, ond maen nhw’n pwysleisio mai “cychwyn siwrnai yw hon”, ac y byddan nhw’n “ymchwilio i holi sut y gall cyfrwng digidol fod o gymorth i dwf gweithgaredd cymunedol ‘o’r gwraidd i fyny’, sydd yn gorfod addasu i heriau cyfnod newydd yn dilyn dwy flynedd o Covid-19”.

Bydd yr adran newydd yn rhoi’r cyfle i bobol hyrwyddo gweithgaredd, yn pontio cymunedau gyda’i gilydd ac yn edrych ar sut y gall cyfrwng digidol hygyrch “ysbrydoli ac annog cyfranogi pellach” yn y gymuned.

Bydd yr adran ‘Cymunedau’ yn cynnwys ystod eang o weithgaredd: o waith arloesol mentrau cydweithredol economaidd megis Cwmni Bro Ffestiniog, Antur Waunfawr, Together for Change Sir Benfro a Phartneriaeth Ogwen, adeiladau cymunedol megis Yr Orsaf a Chanolfan Soar, tafarnau cydweithredol fel Saith Seren Wrecsam a Thafarn y Fic Llithfaen, gweithgaredd perfformio lleol fel Theatr Gydweithredol Troed y Rhiw a mentrau egni ac amgylcheddol megis GwyrddNi ac Ynni Cymunedol Cymru.

‘O’r gwraidd i fyny’

“Credwn bod diwylliant cymunedol wedi ei greu â’i berchenogi gan y gymuned yn greiddiol a hanfodol i lesiant pawb a phob dim,” meddai Alun Llwyd, prif weithredwr AM.

“Mae gallu partneru o’r gwraidd i fyny i greu a rhannu gyda rhai o’r cyrff arloesol yma yn fraint aruthrol.”

Ychwanegodd Meleri Davies o Bartneriaeth Ogwen fod “mentrau cymunedol yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobol ar draws Cymru”.

“O weithredu amgylcheddol i ddatblygu’r economi leol, mae’n dylanwad yn sylweddol ond prin yw’r sylw a roddir i hyn yn y wasg genedlaethol,” meddai.

“Mae’n braf felly gweld AM yn neilltuo adran benodol i gymunedau ar eu gwefan.

“Mae’n gofnod o’n gweithgarwch ni ond mae o hefyd yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd ein gwaith a phwysigrwydd cymuned i fywydau pobol Cymru.”

Yn ôl Lowri Jones o Theatr Gydweithredol Troed y Rhiw, Ceredigion, “mae’n adeg pwysig i’n cymdogaethau wrth i ni geisio ailgydio mewn gweithgarwch diwylliannol”.

“Edrychwn ymlaen at gydweithio gydag AM i fanteisio ar ein cyfryngau – theatr a llwyfannau digidol – i ledu gweithgarwch creadigol cymdogaethau’r gorllewin,” meddai wedyn.

Dywed Lisbeth McLean o Ganolfan a Theatr Soar, Merthyr Tydfil mai “un o’r pethau mwyaf dyn ni wedi dysgu yng Nghanolfan Soar dros y cyfnod yma yw faint mae’r gallu i gwrdd â chymdeithasu yn meddwl i’n cymuned”.

“Mae yna deimlad o werthfawrogiad newydd a chariad yn yr adeilad ers i ni agor lan eto,” meddai.

“Mae’r gwasanaeth dyn ni’n cynnig i’n cymuned wrth wraidd ei gwellhad.

“Mae’n fraint bod yn rhan o rwydwaith o sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth ar draws Cymru.

“Cyfle arbennig i rannu gwybodaeth a phrofiad a magu partneriaethau newydd.”

Ychwanegodd Christopher Evans o dafarn y Saith Seren, Wrecsam mai’r “gymuned yn Wrecsam yw asgwrn cefn Saith Seren ac mae’n gyffrous medru bod yn rhan o gymuned ddigidol genedlaethol newydd drwy AM a’r adran ‘Cymunedau’!”