Byddai 75% o weithwyr sector cyhoeddus Cymru’n fwy tebygol o aros mewn swydd sy’n caniatáu gweithio o bell neu weithio hybrid, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad gan y Brifysgol Agored, Embracing Flexibility, yn amlygu awydd am fwy o hyblygrwydd a chyfleoedd dysgu a datblygu dros y sector.

Yn ôl canfyddiadau arolwg a gafodd ei ateb gan weithwyr y sector, mae addasu i fodel gweithio hybrid, hyblyg yn allweddol er mwyn cadw staff yn y sector cyhoeddus ac yn dangos effaith y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno cynlluniau i sicrhau bod 30% o weithlu Cymru’n gweithio o gartref neu’n agos i’w cartref yn rheolaidd.

Dywedodd 51% o’r dysgwyr atebodd yr arolwg fod yn well ganddyn nhw ddysgu cyfunol, tra bod 24% yn hoffi dysgu o bell orau.

‘Cyflymu’r newid’

Dywed Rhys Griffiths, Rheolwr Cysylltiadau Busnes y Brifysgol Agored yng Nghymru, fod y sector cyhoeddus wedi bod “ar flaen y gad o ran newid yn y gweithle” yn draddodiadol.

“O weithio hyblyg, i feithrinfeydd, i rannu swyddi, mae llawer o weithwyr wedi gallu datblygu gyrfaoedd hirhoedlog a chyflawni eu dyheadau o gwmpas eu cyfrifoldebau personol,” meddai.

“Ond ddwy flynedd yn ôl, cafodd tirlun gweithwyr Prydain ei orfodi i addasu i’r pandemig, gan arwain at gyflymu’r newid yma’n sylweddol, gyda gweithwyr a chyflogwyr y sector cyhoeddus yn dal i geisio deall beth fydd mwy o weithio hybrid a hyblyg yn ei olygu yn y dyfodol.

“Mae ein harolwg yn adlewyrchu’r awydd am fwy o ddysgu hyblyg, modelau hybrid a gweithio o bell, gan awgrymu eu bod yma am yr hirdymor mewn llawer o swyddi, ond mae gweithwyr yn dal i fod eisiau ymgymryd â dysgu a datblygu i gyrraedd eu llawn botensial.”

Cyfleoedd dysgu

Mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cyfleoedd dysgu a datblygu i weithwyr y sector.

Datgelodd yr arolwg newydd o 488 o weithwyr y sector yng Nghymru fod wyth ym mhob deg yn dweud bod dysgu a datblygu yn allweddol ar gyfer boddhad swydd yn y sector cyhoeddus.

Serch hynny, mae diffyg hyblygrwydd yn amharu ar hyfforddiant, meddai, gyda 27% yn cyfeirio at ddiffyg oriau gweithio hyblyg fel ffactor sy’n atal gweithwyr rhag cymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddiant.

Dywedodd 15% o’r ymatebwyr eu bod nhw’n ansicr pa hyfforddiant oedd ar gael ar gyfer eu swydd, ac yn ôl yr adroddiad, mae yna awgrym bod angen i sefydliadau’r sector cyhoeddus gyfathrebu’n gliriach â gweithwyr hybrid a gweithwyr o bell am yr hyfforddiant sydd ar gael.

“Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r her i arweinwyr y sector cyhoeddus a thimau dysgu a datblygu,” meddai Rhys Griffiths wedyn.

“Yn y dyfodol bydd angen mwy o ddewis, gan yrru mwy o ymwybyddiaeth, ac ailddychmygu’r ffordd caiff dysgu ei ddarparu yn y gweithle.”