Mae mamau ag awtistiaeth yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth fwydo o’r fron, meddai adolygiad newydd.
Yn ôl yr adolygiad gan Brifysgol Abertawe, a gafodd ei gwblhau ar y cyd â Phrifysgol Caint ac Autistic UK, dydy’r gefnogaeth sy’n cael ei gynnig gan ymwelwyr iechyd a bydwragedd yn aml iawn ddim yn addas i gwrdd â gofynion menywod ag awtistiaeth.
Roedd yr adolygiad yn ystyried profiadau dros 300 o famau ag awtistiaeth, a daeth Dr Aimee Grant o Brifysgol Abertawe i’r casgliad bod gwasanaethau cefnogi mamolaeth a bwydo babanod wedi cael eu hadeiladu ar ddiffyg dealltwriaeth ynghylch anghenion mamau ag awtistiaeth.
Dangosodd yr ymchwil ei bod hi’n anodd i famau ag awtistiaeth gael mynediad at y gwasanaethau yn y dyddiau cynnar ar ôl iddyn nhw gael plentyn hefyd.
Fe wnaeth lleiafrif o fenywod ddweud eu bod nhw wedi cael profiadau cadarnhaol wrth fwydo o’r fron.
I’r mwyafrif, roedd yr heriau y mae’r rhan fwyaf o fenywod yn eu hwynebu wrth fwydo o’r fron yn cael eu cymhlethu yn sgil y gwahaniaethau yn y ffordd maen nhw’n profi poen a theimladau corfforol.
Roedd hynny, ynghyd â’r diffyg cefnogaeth, yn golygu bod bwydo o’r fron yn heriol iawn i’r rhan fwyaf o’r mamau, ac yn amhosib i eraill.
‘Cwbl annigonol’
Dywed Dr Aimee Grant fod yna gydnabyddiaeth fod y gefnogaeth ar gyfer mamau sy’n bwydo o’r fron drwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn “gwbl annigonol”.
“Yn sgil tanariannu difrifol a phrinder o dros 2,000 o fydwragedd, dyw hi ddim yn bosib i’r rhan fwyaf o famau dderbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw i gyrraedd eu hamcanion wrth fwydo o’r fron,” meddai Dr Aimee Grant, arweinydd yr ymchwil sy’n rhan o Ganolfan Llaethiad, Bwydo Babanod ac Ymchwil Trawsfudol ym Mhrifysgol Abertawe.
“Rydyn ni’n gwybod bod mamau yn y Deyrnas Unedig sy’n iau ac o gefndiroedd incwm isel yn tueddu i fwydo llai o’r fron, ond mae yna lai o gydnabyddiaeth i ffactorau fel niwrowahaniaethau.
“Mae’r adolygiad hwn wedi amlygu bod angen brys i wasanaethau mamolaeth a bwydo babanod i ddarparu ar gyfer anghenion mamau ag awtistiaeth.”
Mae’r adolygiad yn argymell:
- y dylai’r cyfathrebu fod yn glir, uniongyrchol, a phenodol, a dylid darparu gwybodaeth ysgrifenedig wedyn;
- ni ddylid cyffwrdd mamau heb gysyniad clir, er enghraifft wrth ddangos sut i fwydo o’r fron;
- dylai staff dderbyn hyfforddiant yn ymwneud ag awtistiaeth a bwydo o’r fron;
- dylai fod gan famau ag awtistiaeth un gweithiwr iechyd i gynnig cefnogaeth mamolaeth a bwydo er mwyn osgoi’r angen i ailadrodd eu hanghenion wrth aelodau newydd o staff.
‘Amlygu’r gwahaniaethau’
“Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn Autistic UK wedi amlygu’r gwahaniaethau mae oedolion ag awtistiaeth yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ofal iechyd,” meddai Kathryn Williams, Cyfarwyddwr Anweithredol ac Arweinydd Ymchwil gydag Autistic UK.
“Mae hyn yn adlewyrchu canfyddiadau ymchwil sy’n dangos bod canolbwyntio ar wella mynediad i oedolion ag awtistiaeth at ofal iechyd yn hanfodol.
“Rydyn ni’n dechrau gweithio gyda Byrddau Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru er mwyn cyflwyno Gorchymyn y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth, a byddem ni’n croesawu hyfforddiant gorfodol i holl weithwyr gofal iechyd Cymru a Lloegr.”