Fe wnaeth prisiau tai yng Nghymru gynyddu 8.9% rhwng mis Mawrth y llynedd a mis Mawrth eleni.
Erbyn hyn, mae tŷ yn costio £239,441 ar gyfartaledd yng Nghymru.
Yn ôl arolwg newydd gan yr arolygwyr tai e.surv, fe wnaeth y cynnydd blynyddol ym mhrisiau tai Cymru godi eto rhwng mis Ionawr a diwedd Chwefror.
Ym mis Ionawr, roedd y cynnydd blynyddol mewn prisiau yn 7.5%.
Mae’r cynnydd blynyddol wedi bod yn uwch yng Nghymru nag yn yr un rhan o Loegr wyth mis yn olynol.
Yn ôl dadansoddiad arolygwyr e.surv, mae Cymru’n ticio’r holl focsys er mwyn denu pobol sydd wedi addasu eu ffordd o fyw ers dechrau’r pandemig gan fod pobol yn chwilio am gefn gwlad.
Dim ond gogledd-ddwyrain Lloegr a Swydd Efrog a Humber sydd â phrisiau tai cyfartalog is na Chymru, sy’n cyfrannu tuag at y cynnydd mewn sydyn mewn prisiau, meddai.
‘Galw cryf am le’
Dywed Richard Sexton, cyfarwyddwr e.surv, fod y mynegai misol diweddaraf yn dangos record newydd eto ar gyfer prisiau yng Nghymru a Lloegr am y pumed tro yn y deuddeg mis diwethaf.
“Mae cryfder y farchnad yn cael ei gynnal gan gyflenwad cyfyngedig parhaus a galw cryf am le wedi’r pandemig er mwyn cwrdd â’n disgwyliadau newydd ynghylch sut a lle rydyn ni’n byw a gweithio,” meddai.
“Mae hyn wedi bod fwyaf amlwg ers sawl mis o ran perfformiad Cymru fel rhanbarth ond mae’n cael ei gefnogi gan y twf mewn beltiau cymudo yn y De Ddwyrain sy’n cynnig lle ond cysylltiadau a phellter da i ganolfannau trefol er mwyn gweithio’n hybrid.
“Yn y bôn, mae cyfraddau llog isel yn parhau i gefnogi fforddiadwyedd i brynwyr.
“Mae Banc Lloegr wedi crybwyll y ffaith bod cyfraddau’n codi’n araf yn sgil amodau sy’n atal cynnydd economaidd.
“Ond yn draddodiadol, mae chwyddiant wedi bod yn arwydd o elwon llai mewn grwpiau o asedau eraill ac yn aml mae’n arwydd o adferiad ym mhoblogrwydd tai ymhlith buddsoddwyr.
“Felly efallai y gallwn ni weld hyd yn oed mwy o alw am yr eiddo dymunol sy’n dod ar y farchnad.”