Mae newyddiadurwraig ifanc o Birmingham wedi bod yn darganfod y Gymraeg ers ymgartrefu yng Nghymru.

Fe wnaeth Emily Withers, sy’n gweithio gyda Wales Online, syrthio mewn cariad â’r Gymraeg ar ôl ymuno â chwrs ar gyfer dechreuwyr yng Nghaerdydd.

Daeth i Brifysgol Caerdydd er mwyn astudio Llenyddiaeth Saesneg a Hanes, cyn mynd yn ei blaen i ddilyn cwrs Meistr mewn Newyddiaduraeth yno y llynedd.

Erbyn hyn, mae hi’n defnyddio’r Gymraeg gyda’i chydweithwyr weithiau ac yn cynorthwyo’r gwaith o gynnal tudalen Facebook cyfrwng Cymraeg sy’n rhannu straeon newyddion.

Mae hi’n dilyn cwrs lefel Mynediad i ddechreuwyr gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Mi ddes i yma i’r brifysgol a dyna’r penderfyniad gorau nes i,” meddai.

“Dw i wedi teimlo mod i’n perthyn i Gymru ers dechrau dysgu Cymraeg.

“Mae dysgu Cymraeg yn fodd o ddangos parch, a hoffwn fedru ateb rhywun yn Gymraeg, os ’dyn nhw’n penderfynu siarad Cymraeg gyda fi.

“Dw i’n cynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal tudalen Facebook cyfrwng Cymraeg sy’n rhannu straeon newyddion.

“Mae Cymru Ar-lein yn cynnwys geirfa a ’dyn ni’n gofyn cwestiynau yn Gymraeg er mwyn annog trafodaeth.

“Os dych chi’n dysgu Cymraeg ac â diddordeb mewn materion cyhoeddus, ymunwch â’r grŵp!’’

‘Hwyl’ dysgu Cymraeg

Ym mis Medi, bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i bobol ifanc rhwng 18 a 25 oed, ac yn ôl Emily Withers, mae’r cynllun yn un “gwych” a fydd yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyrraedd y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Dw i’n edrych ymlaen at barhau i ddysgu Cymraeg a defnyddio’r iaith gyda ffrindiau a chydweithwyr,” meddai wedyn.

“Ar hyn o bryd, dw i’n deall Cymraeg ysgrifenedig yn eithaf da, felly dw i’n gobeithio y bydd fy sgiliau llafar a gwrando yn gwella maes o law. Os dych chi’n awyddus i ddysgu Cymraeg, rhowch gynnig arni.

“Mae dysgu Cymraeg yn hwyl a dych chi’n gallu ymarfer drwy’r amser os dych chi’n byw yng Nghymru!’’