Mae data sydd wedi’i gasglu gan gwmni gwyliau yn y Deyrnas Unedig yn dangos bod llety gwyliau’n cyfrannu’n sylweddol uwch at economi leol ardal nag ail gartrefi neu berchnogion tai preswyl.
Yn ôl Julia Chapman, Pennaeth Gweithrediadau Finest Retreats, o edrych ar eiddo sydd â thair ystafell wely, mae llety gwyliau llawn amser yn cyfrannu mwy na chwe gwaith yn fwy i’r gymuned leol na thai haf, a mwy na thair gwiath yn fwy na pherchnogion tai preswyl neu eiddo sydd ar rent hirdymor.
“Mae’n hanfodol gwahaniaethu rhwng dau fath o berchnogion ail gartrefi,” meddai.
“Y rhai sy’n cyfrannu at yr economi leol drwy roi eu heiddo ar rent i ymwelwyr sy’n gwario arian ac yn cynhyrchu refeniw i fusnesau lleol, a’r sawl sy’n berchen ar dai haf at ddefnydd personol ond nad ydyn nhw’n byw yno’n rheolaidd.
“Mae llety gwyliau sydd wedi’u gweithredu’n broffesiynol yn cynhyrchu gwesteion drwy gydol y flwyddyn, sy’n bwyta mewn bwytai lleol, yn yfed yn y dafarn leol ac yn siopa mewn siopau lleol sawl gwaith yr wythnos – mwy, yn aml iawn, na’r rhai sy’n byw yn y lleoliadau hyn yn barhaol.
“Mae gwaith cynnal a chadw rheolaidd mewn eiddo yn creu gwaith i grefftwyr lleol.
“Mae’r cyfan oll yn bositif iawn i’r economi leol, yn aml mewn llefydd lle nad oes swyddi eraill ar gael.”
Cymharu data
Mae astudiaeth i gymharu data a gafodd ei chreu gan y cwmni gwyliau’n edrych ar dri chategori gwahanol – eiddo ar rent hirdymor, tai haf a llety gwyliau llawn amser.
Yn ôl Julia Chapman, dydy’r ddadl am effaith negyddol llety gwyliau ddim yn rhoi darlun cyflawn wrth edrych ar y data.
“Er enghraifft, mae ein gweithwyr yn gyflogedig yn llawn amser ar gyflogau da yn y lleoliadau hyn, felly o’u hychwanegu at fanteision ariannol eraill dod ag ymwelwyr cyson i drefi a phentrefi gwledig neu arfordirol, mae’n gyferbyniad llwyr ag ail gartrefi sydd yn rhoi ychydig iawn o ystyriaeth i’r economi leol,” meddai.
“Mae cynnig chwe gwaith yn fwy o incwm i’r economi leol fel llety gwyliau, a thair gwaith yn fwy o ran perchnogion sy’n byw yno neu wedi rhoi’r eiddo ar rent hirdymor, yn dangos pa mor werthfawr gall llety gwyliau fod a pham y dylid edrych yn ofalus o bob ongl ar unrhyw weithredoedd a allai gael sgil-effaith andwyol ar fusnesau lleol, a pheidio â’i gweld hi fel problem sy’n gofyn am sylw.”
Mae hi’n galw am edrych ar gyfraniad economaidd llety gwyliau llawn amser wrth i gynghorau edrych ar fyrdd newydd o gosbi perchnogion ail gartrefi drwy godi mwy o dreth gyngor arnyn nhw neu gosbau ariannol eraill.
“Rhaid peidio â chladdu cyfraniad economaidd llety gwyliau llawn amser o dan trafodaethau pitw eraill am ddiffyg tai fforddiadwy lleol ac yn hytrach, dylai cynghorau ganolbwyntio ar swyddi a chyflogaeth i sicrhau bod gan bob ardal o’r Deyrnas Unedig gyfle cyfartal i ddatblygu fel cymunedau economaidd gynhyrchiol bywiog a deniadol i bawb,” meddai.