Mae hanes creulon caethwasiaeth yn mynd law yn llaw â hwyl y Pasg yn un o atyniadau mwyaf Gwynedd yr wythnos hon.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n gofalu am Gastell Penrhyn ger Bangor, mae adrodd cysylltiad y lle gyda chwareli llechi’r ardal cyn bwysiced ag adrodd ei hanes anodd yng nghyswllt y fasnach gaethweision.

Yn ogystal â ‘Llwybr Pasg’ sy’n agored i ymwelwyr rhwng Ebrill 11 a 18, mae hefyd arddangosfa i’w gweld y tu mewn i furiau’r Castell sy’n trafod ei orffennol atgas yn ymwneud â chaethwasiaeth.

Mae’r arddangosfa ‘Beth yn y Byd?’ yn trafod ambell i eitem o gasgliadau Castell Penrhyn sy’n gysylltiedig â’i orffennol trefedigaethol a’r fasnach gaethweision. Cafodd yr eitemau eu dewis o gasgliadau’r Castell ar y cyd rhwng y curaduron a chriw o blant ysgol gynradd Our Lady’s Primary ym Mangor.

Ymhlith yr eitemau hynny mae cromen wydr ag adar wedi’u stwffio y tu mewn iddi, a’r plant yn ei gweld fel symbol o rywbeth sy’n brydferth ar y tu allan, ond wedi golygu caethiwed a dioddefaint, yn union fel Castell Penrhyn ei hun.

Eitem arwyddocaol arall yw’r teaboy, dodrefnyn a fyddai wedi bod yn yr ystafell fyw pan fyddai’r boneddigion yn eistedd i gael te.

Roedd teulu’r Pennant, perchnogion Castell Penrhyn, yn berchen ar dir yn Jamaica am 300 mlynedd a bu miloedd o gaethweision o Affrica yn gweithio ar eu planhigfeydd siwgr am fwy na chanrif.

Rhai “ddim eisio gwybod”

Yn 2019, croesawodd Castell Penrhyn 134,000 o ymwelwyr drwy’r drysau.

Fe fydd ymateb pobol i ymgais yr Ymddiriedolaeth i drafod cysylltiad y Castell â chaethwasiaeth yn amrywio, yn ôl llefarydd ar ran adran farchnata’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

“Mae lot o ymwelwyr yn dod yna, a dydyn nhw ddim yn ymwybodol o’r hanes,” meddai Gwenno Thomas.

“Dydi rhai ddim eisio gwybod, ac mae eraill yn falch iawn ein bod ni’n dweud y stori.

“Rydyn ni’n cael rhai ymwelwyr sydd, dywedwch, yn gysylltiedig â’r hanes, ac mae’r bobol yna yn ei weld o’n sensitif iawn, ond maen nhw’n canmol yr hyn rydan ni’n ei wneud.

“Mae’r tîm yn y Castell wedi cael hyfforddiant ac maen nhw’n gwybod sut i ddelio efo rhywun sy’n ei weld o’n reit emosiynol a jest helpu pobol i ddeall y stori yn well.”

Yn ôl Gwenno Thomas, mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn barod i drafod ei orffennol trefedigaethol ers sawl blwyddyn bellach, cyn i ymgyrchoedd byd-eang Black Lives Matter fynnu bod sefydliadau yn datgelu a thrafod hanesion o’r fath, ac yn eu condemnio.

Enghraifft o hynny oedd yr arddangosfa ‘12 Stori’ a oedd yno yn 2018, a oedd yn seiliedig ar hanes caethwasiaeth, gan yr awdur Manon Steffan Ros.

“O ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rydan ni’n hynod o falch ein bod ni’n cael cyfle i ddweud y stori,” meddai.

“Ar ben hynny, mae ganddon ni’r pethau neis i deuluoedd fel llwybr y gwenoliaid yn mynd drwy’r gerddi.

“Mae’r gwenoliaid yn dod yn ôl o lefydd poeth dramor, ac maen nhw’n hoff iawn o Gastell Penrhyn, yn gwibio drwy’r gwellt hir.

“Mae’r tîm wedi gwneud llwybr teulu i’r Pasg yn dilyn y gwenoliaid drwy’r ardd.”

‘Tu Hwnt i Penrhyn’

O ran Castell Penrhyn, “mae stori caethwasiaeth yr un mor bwysig â’r stori leol ym Methesda, ac Arglwydd Penrhyn”, yn ôl Gwenno Thomas.

“Efo Safle Treftadaeth y Byd yn cael ei gyhoeddi (ar ran yr Ardaloedd Llechi) y llynedd, mae hwnna yn rhoi platfform arall i ni ddweud hanesion y chwareli a’r llechi yn Chwarel Penrhyn a gweithio efo partneriaid a’r cymunedau.”

Felly, ar ôl y Pasg, bydd yr arddangosfa ‘Tu Hwnt i’r Castell’ yn agor, sy’n canolbwyntio ar hanesion lleol a’r chwareli, a hanes Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, 1900-03.

“Y bwriad ydi ein bod ni’n cael yr hanes caethwasiaeth a’r chwareli yn ymddangos yn y castell law yn llaw, fel bod pawb sy’n ymweld â’r Castell yn gallu dysgu am y ddau hanes,” meddai Gwenno Thomas.

“Mae’r ddau’r un mor bwysig â’i gilydd.”

Yn rhan o ‘Tu Hwnt i’r Castell’, bydd dau aelod o staff y Castell, Lois Jones a Rhian Cahill, yn mynd allan i’r gymuned i weithio gyda Neuadd Ogwen, a phartneriaid lleol eraill, “i adrodd y stori o fewn y cymunedau,” meddai Gwenno Thomas, “a thrio cael pobol Bethesda i ddod i’r Castell ac iddyn nhw deimlo mai nhw sy’n bia’r Castell”.

“Er mai’r Ymddiriedolaeth sy’n gofalu amdano fo, eu castell nhw, i adrodd eu hanes a’i fwynhau, ydi o.”

Woven ar werth?

Mae Woven, cyfieithiad Saesneg o nofel boblogaidd Angharad Tomos, Y Castell Siwgr, am hanes Castell Penrhyn a’r fasnach gaethweision, newydd gyrraedd y siopau.

Mewn cyfweliad gyda chylchgrawn golwg, soniodd yr awdur y byddai’n ddifyr gweld y llyfr ar werth yn siop Castell Penrhyn, gan mai dyna leoliad rhan gyntaf y nofel.

Gallai hynny ddigwydd, yn ôl Gwenno Thomas.

“Yr hyn faswn i’n ei awgrymu ydi i’r cyhoeddwyr gysylltu efo ein tîm manwerthu ni, ac wedyn mi wnawn ni siarad am y peth wedyn,” meddai.

“Ond, bendant, rydan ni yn gwerthu lot o lyfrau Cymraeg – dim ond i rywun gymryd y cam ac i holi.”