Bydd y rhaglen frechu rhag y ffliw yng Nghymru’n cael ei hymestyn i gynnwys pobol 50 oed a hŷn a phlant ysgolion uwchradd rhwng 11 ac 16 oed eto eleni.

Dyma’r ail flwyddyn i’r rhaglen gael ei hymestyn, sy’n golygu y bydd dros 1.5m o bobol yn gymwys i gael y brechlyn am ddim eleni.

Fe fydd menywod beichiog, pobol â chyflyrau iechyd penodol, a phlant rhwng dwy a deg oed yn cael cynnig brechlyn am ddim hefyd.

Cafodd mwy o bobol nag erioed frechlyn ffliw y llynedd fel rhan o’r rhaglen frechu flynyddol, ac mae sicrhau bod nifer uchel o bobol yn manteisio ar y brechlyn eto eleni yn “hanfodol” i leihau marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r ffliw, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bydd hefyd yn lleihau’r nifer o bobol fydd yn cael eu derbyn i’r ysbyty ar adeg pan fydd y Gwasanaeth Iechyd o bosib yn ceisio ymdopi ag achosion o Covid-19 dros y gaeaf, meddai.

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi awgrymu ei bod yn debygol y ceir rhaglen atgyfnerthu’r hydref ar gyfer brechlynnau Covid-19 ac efallai y bydd cyfle i gynnig y ddau frechlyn ar yr un pryd yn ystod tymor 2022-23.

‘Dal i adfer’

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £7.85m ychwanegol i fyrddau iechyd er mwyn ymestyn y rhaglen frechu eto.

“Yma yng Nghymru, rydym yn teimlo ei bod yn bwysig i barhau i ddiogelu cymaint o bobol â phosibl rhag y ffliw, ac rwy’n falch o gadarnhau y byddwn unwaith eto yn cynnig rhaglen estynedig ar gyfer brechu rhag y ffliw,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Nid yw Covid wedi diflannu ac mae ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dal i adfer ar ôl y pandemig.

“Bydd sicrhau bod cynifer o bobol â phosibl wedi’u diogelu rhag y ffliw yn helpu unigolion a’u cymunedau, ond bydd hefyd yn diogelu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Rwy’n annog pobol sy’n gymwys i dderbyn y cynnig.”