Mae dwy ysgol yn y Rhondda wedi bod yn cefnogi plant yn Wcráin drwy godi arian a chreu pypedau.
Mae Ysgol Gynradd Ton Pentre wedi codi £7,000 at Apêl Wcráin Achub y Plant, ar ôl i Gyngor yr Ysgol feddwl am syniadau creadigol, gan gynnwys cystadleuaeth cyfri Skittles, enwi tedi o Wcráin a chymryd rhan mewn taith gerdded milltir o hyd o amgylch yr ysgol.
Cafodd siec ei chyflwyno i Deb Barry o Gaerffili, sydd wedi treulio dros chwarter canrif yn gweithio ym maes trychinebau dyngarol mewn bron i 80 o wledydd, gan gynnwys Affganistan a Syria, gydag Achub y Plant.
Yn ystod ei hymweliad, eglurodd Deb Barry wrth y plant sut y byddai eu harian yn helpu i greu gofodau i’r miloedd o blant sydd wedi gorfod symud o ganlyniad i’r rhyfel yn Wcráin.
Cerddodd y plant filltir yr un – cyfanswm o bron i 189 yn yr ysgol i gyd – i ail-greu taith anodd y plant yn Wcráin wrth iddyn nhw geisio lloches mewn gwlad gyfagos.
“Dw i wedi bod yn athro ers dros ugain mlynedd, a dw i erioed wedi gweld y fath ymateb gan bawb yn y gymuned fach hon syd eisiau gwneud beth bynnag maen nhw’n gallu i roi ac i helpu,” meddai Mr Ian Evans, pennaeth yr ysgol.
“Daeth y synidau codi arian o Gyngor yr Ysgol ac maen nhw wedi dod â’r ysgol gyfan a’r gymuned ehangach ynghyd i gefnogi drwy roddi ar gyfer y raffle a chefnogi nifer o weithgareddau codi arian.
“Rydyn ni i gyd wedi bod yn gwylio cyfweliadau Deb Barry o Wlad Pwyl ar y teledu, ac mae ei chael hi’n dod yma i siarad â’r plant ac egluro sut fydd yr arian yn helpu plant yn Wcráin wedi taro deuddeg gyda ni i gyd.”
Ysgol y Parc
Llwyddodd Ysgol y Parc i godi £500 drwy gynnal gweithgareddau codi arian.
Daeth y gymuned leol ynghyd i greu 60 o bypedau i helpu plant sy’n ffoi o Wcráin i ymdopi â thrawma emosiynol y rhyfel.
Bydd y pypedau’n cael eu dosbarthu gan Deb Barry y tro nesaf y bydd hi’n dychwelyd i Wlad Pwyl i helpu Achub y Plant.
Un o’r rhai fu’n helpu i greu’r pypedau yw Marlene Hill, aelod o’r clwb gweu lleol, sy’n 84 oed.
“Dw i wedi bod yn gweu ar hyd fy oes, ac roeddwn i jyst eisiau helpu,” meddai.
“Mae fy merch yn gweithio yn yr ysgol, ac eglurodd hi sut maen nhw’n defnyddio’r pypedau fel ffordd o gefnogi plant i siarad am eu hemosiynau, ac mae’n syniad mor hyfryd i helpu plant o Wcráin i ymdopi â’r hyn maen nhw wedi’i brofi dros y misoedd diwethaf.”
Wyau Pasg
Yn gyfnewid am eu haelioni, mae tîm Achub y Plant wedi dosbarthu 1,500 o wyau Pasg i blant mewn ysgolion ar draws y cymoedd.
Cafodd yr wyau eu rhoddi gan nifer o gefnogwyr, gan gynnwys Care4Humanity, aelodau o’r gangen WI leol yn Abertridwr a busnesau GE Aviation, Tesco, Asda a Morrisons.
“Does dim modd dychmygu effeithiau seicolegol y gwrthdaro hwn ar blant,” meddai Deb Barry.
“Mae hi wedi bod yn anhygoel dod adref i’r holl garedigrwydd allblyg yma, ac i siarad â phlant o’r ysgolion hyn yng Nghymru i weld sut maen nhw’n sefyll mewn undod gyda’r plant yn Wcráin.
“Mae’n ein hatgoffa ni i gyd fod plant yn byw mewn gobaith ac yn gwybod beth sy’n bwysig.
“Dw i hefyd am ddiolch i bawb a roddodd wyau Pasg i’n hysgolion yn ne Cymru i helpu i ddod â llawenydd i deuluoedd yma y Pasg hwn hefyd.”
Apêl Wcráin
Ar y cyfan, mae dros £10.7m wedi’i roddi yng Nghymru i Apêl Ddyngarol Wcráin y DEC, gan gynnwys £4m gan Lywodraeth Cymru, ac mae £260m wedi’i godi ledled y Deyrnas Unedig hyd yn hyn.
Mae Achub y Plant yn weithgar yn Wcráin ers 2014, gan roi cymorth dyngarol i blant a’u teuluoedd ac ar hyn o bryd, maen nhw’n dosbarthu bwyd, dŵr a chyfarpar hylendid i ffoaduriaid ar y ffin â Rwmania ac mewn canolfannau derbyn.
Yng Ngwlad Pwyl a Rwmania, mae Achub y Plant yn cynnig gwasanaethau amddiffyn plant, gan gynnwys cefnogaeth bwrpasol ar gyfer plant heb oedolyn, cefnogaeth seicogymdeithasol a mynediad at wasanaethau cyfreithiol.