Marine Le Pen, ymgeisydd y blaid asgell dde eithafol Rali Genedlaethol, ddaeth i’r brig yn rownd gyntaf etholiadau arlywyddol Ffrainc yng ngogledd Catalwnia (Catalunya Nord), neu ranbarth y Pyrénés-Orientales.

Enillodd hi 32.47% o’r bleidlais yno, sy’n fwy na 12% yn fwy na’r Arlywydd Emmanuel Macron, ond fe wnaeth dros 25% y rhai sy’n gymwys i bleidleisio atal eu pleidlais.

Yn Perpignan, lle mae’r asgell dde eithafol eisoes mewn grym, pleidleisiodd 27.39% dros Marine Le Pen, gydag ychydig yn fwy na 25% yn ffafrio Jean-Luc Mélenchon a’i blaid La France Insoumise ar yr asgell chwith.

Pleidleisiodd ychydig dros un ym mhob pump o drigolion y ddinas dros yr arlywydd presennol, gyda 30.76% o’r trigolion yn atal eu pleidlais.

Ledled Ffrainc, enillodd plaid Macron, La République En Marche!, 27.6% o’r bleidlais, gyda Marine Le Pen a’i phlaid hithau yn ennill 23.41%.

Bydd yr ail rownd rhwng Emmanuel Macron a Marine Le Pen yn cael ei chynnal ar Ebrill 24.

Dydy’r data cyflawn ddim ar gael ar gyfer Catalwnia eto, lle mae 27,000 o Ffrancwyr yn gymwys i bleidleisio yn un o’r gorsafoedd yn stadiwm Camp Nou Barcelona, y Lycée Français Marguerite Yourcenar yn Reus, y Centre Cívic Creu de la Mà yn Figueres, neu’r Centre Cívic Ter yn Girona.

Er mwyn pleidleisio, rhaid i Ffrancwyr yng Nghatalwnia gofrestru fel trigolion gyda’r swyddfa gonswlaidd, a gwneud cais i gael eu cynnwys ar y gofrestr bleidleisio, gan fynd i orsaf i bleidleisio neu anfon dirprwy ar eu rhan.