Dydy Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim yn tanseilio datganoli “o gwbl”, yn ôl arweinydd Ceidwadwyr yr Alban.

Daw sylwadau Douglas Ross wrth iddo ymweld â safle Ymddiriedolaeth Crichton yn Dumfries, un o’r sefydliadau sydd wedi elw ar gronfa gymunedol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae gweinidogion yr SNP wedi mynegi pryderon fod Llywodraeth San Steffan yn ceisio tanseilio datganoli drwy wario arian yn uniongyrchol yn yr Alban.

Ond yn ôl Douglas Ross, does gan sefydliadau sydd angen arian “ddim ots o ba lywodraeth y daw”.

“Diben datganoli yw fod gan yr Alban ddwy lywodraeth a dyna’r holl reswm am gael datganoli, fod y ddwy lywodraeth yn gallu cydweithio, er enghraifft, ar gytundebau twf dinasoedd a rhanbarthau,” meddai.

Codi’r gwastad

Mae cyfanswm o £190m wedi mynd i’r Alban o’r cronfeydd, yn ôl y Blaid Geidwadol.

Mae buddsoddiad Llywodraeth San Steffan yn golygu £172m ar gyfer cronfeydd Codi’r Gwastad a £18m ar gyfer ceisiadau am arian o gronfeydd cymunedol.

Wrth gael ei holi a yw ardaloedd Ceidwadol traddodiadol yn debygol o elwa mwy nag ardaloedd eraill, dywedodd Douglas Ross fod nifer o ardaloedd yr SNP heb wneud cais am arian drwy’r gronfa.

Etholiadau lleol

Mae Douglas Ross yn “optimistaidd iawn” y gall y Ceidwadwyr guro Llafur yn yr etholiadau lleol fis nesaf.

Ond mae’r polau diweddara’n awgrymu y gallai’r Blaid Geidwadol lithro i’r trydydd safle y tu ôl i’r SNP a Llafur.

Serch hynny, mae’n mynnu bod Llafur “wedi mynd am yn ôl ym mhob un etholiad ers datganoli”.

Ac mae’n mynnu na fyddai’r Ceidwadwyr yn ystyried clymbleidio â’r SNP “oherwydd rydyn ni’n gwybod mai eu hunig flaenoriaeth fydd refferendwm annibynnol dinistriol fydd yn achosi rhwyg”.

Ymateb yr SNP

Yn y cyfamser, mae Mhairi Black, Aelod Seneddol yr SNP, yn galw ar Albanwyr i ethol cynghorwyr sy’n barod i “weithio’n ddiflino dros gymunedau” ac i “leisio barn am record erchyll y Llywodraeth Dorïaidd a’u hymgais amlwg i gipio grym”.

“Pan ddaw i Godi’r Gwastad, fe wnaeth Boris Johnson a Michael Gove arwain ymgyrch oedd yn addo £1.5bn y flwyddyn i wasanaethau datganoledig yr Alban pan adawodd y Deyrnas Unedig yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Yn hytrach, y cyfan glywsom yn cael ei gyhoeddi yw £172m.

“I roi hynny yn ei cyd-destun, ar gyfer pob £1 wnaethon nhw ei haddo, maen nhw wedi rhoi 11 ceiniog – mae’r Alban ar ei cholled o 89%.”