Fydd ymgyrch i fynd i’r afael â chostau ynni cynyddol drwy ddiffodd y trydan am ddeng munud yn newid dim, meddai un economegydd.
Hyd yn oed petai nifer fawr o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig yn diffodd eu trydan am ddeng munud yr un pryd, “yr unig beth fyddai’n ei wneud fyddai achosi trallod i ryw beirianwyr druan”, yn ôl yr Athro Calvin Jones.
Mae’r ymgyrch Big Power Off yn ymddangos fel “ffordd arwynebol iawn” o ymateb i’r argyfwng costau ynni, meddai.
Cafodd un digwyddiad ei drefnu ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer 10yh neithiwr (nos Sul, Ebrill 10), ac mae yna un arall wedi’i drefnu at 7yh nos Sadwrn (Ebrill 16).
Mae’r trefnydd Karen Brady yn dweud y bydd yr ymgyrch yn effeithio ar elwon cwmnïau ynni a chyfranddalwyr, ond yn ôl Dr Calvin Jones, sy’n arbenigo ar economeg ynni, fydd yr ymgyrch ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i bobol sy’n berchen ar gyfleusterau cynhyrchu ynni.
Wrth ymateb i feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y trefnwyr eu bod nhw’n gobeithio ‘amharu rywfaint’ ar systemau ynni er mwyn perswadio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu.
Maen nhw’n gobeithio hefyd y bydd y weithred yn deffro cwmnïau ynni a’r llywodraethau gan dynnu sylw at y mater.
‘Dim gwahaniaeth’
Ond yn ôl Calvin Jones, sy’n Athro ym Mhrifysgol Caerdydd, byddai hi wedi bod yn well iddyn nhw, yn y rhan fwyaf o’r achosion, “petaen nhw wedi treulio deg munud ar y we yn edrych ar opsiynau i insiwleiddio eu tŷ nag oedd hi iddyn nhw i ddiffodd eu trydan”.
“Mae’n ymddangos i fi bod y bobol sy’n gyrru hyn yn ei wneud yn sgil ymdeimlad o annhegwch eu bod nhw’n gorfod talu mwy yn hytrach na phryder gwirioneddol am y blaned neu bobol mewn tlodi tanwydd, o’r hyn dw i wedi’i weld ar Twitter,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n poeni nad yw e’n cydnabod y rhan gymhleth mae ynni’n ei chwarae yn ein bywydau… yr unig beth fyddai’n ei wneud fyddai achosi trallod i ryw beirianwyr druan yn y Grid Cenedlaethol.
“Dyw e ddim am wneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i unrhyw un sy’n berchen ar y cyfleusterau cynhyrchu trydan sy’n gwerthu’r trydan neu’r nwy.
“Allwn ni fod yn berfformiadol a throi’r trydan i ffwrdd am ychydig, ond allwch chi fod yn siŵr, pan fydd yr hogyn eisiau cawod cyn iddo fynd i’r ysgol, fel yn fy nhŷ i, bydd y pŵer yn mynd yn ôl arno.”
‘Ffordd gul’
Ychwanega Calvin Jones fod hon yn ymddangos fel ffordd “eithaf cul” o ymateb, a’i bod hi’n aneglur sut mae’r trefnwyr yn credu y bydd y dull hwn yn newid y sefyllfa.
Mae’r trefnwyr yn bwriadu ailadrodd y Big Power Off nes y bydd mesurau brys arbennig yn cael eu cyflwyno i leihau costau ynni.
“Os ydych chi’n meddwl am y bobol sydd ynghlwm â Gwrthryfel Difodiant ac Insulate Britain, sydd wirioneddol yn newid eu bywydau ac yn mynd i’r carchar er mwyn mynd i’r afael â’r hyn maen nhw’n ei weld fel ein problemau ynni mawr, os liciwch chi, ac rydych chi’n cymharu hynny â diffodd y trydan am ddeng munud a sbïo allan drwy’r ffenest… mae e’n lefel gwbl wahanol o ymgysylltu a fedrwch chi ond dychmygu’r gwahaniaeth welwch chi yn y canlyniad,” meddai Calvin Jones.
“Mae’r bobol sy’n ymwneud â Gwrthryfel Difodiant a’r ymatebion cymunedol hyn i’r argyfwng ynni a’r hinsawdd yn amharu ar y system drwy atal y system yn hytrach na chamu allan ohoni am ddeng munud allan o 24 awr, allan o saith niwrnod [yr wythnos], allan o 365 diwrnod [y flwyddyn].
“Mae hi’n ymddangos i fi fel ei fod e’n ffordd arwynebol iawn o ymateb.”