Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn galw ar Rishi Sunak, Canghellor y Deyrnas Unedig, i ymddiswyddo yn sgil dadl ddiweddar am statws treth ei wraig.
Does ganddo mo’r “crebwyll moesegol” i’w ymddiried gyda phenderfyniadau ariannol sy’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus, meddai Liz Saville Roberts.
Mae Rishi Sunak wedi gofyn i gynghorwyr annibynnol y Prif Weinidog Boris Johnson adolygu ei ddatganiad o fuddiannau.
Ar Twitter, dywedodd ei fod yn hyderus y bydd hynny’n dangos ei fod wedi dilyn y rheolau ar ôl iddi ddod i’r amlwg na fu’n rhaid i’w wraig, Akshata Murty, dalu treth yn y Deyrnas Unedig ar elw o wledydd eraill.
Yn ogystal â’r ffaith fod ganddi statws ‘non-domicile’, daeth i’r amlwg fod gan Rishi Sunak gerdyn gwyrdd ar gyfer mewnfudo i’r Unol Daleithiau.
Ond yn ôl Rishi Sunak, dywedodd wrth Swyddfa’r Cabinet am statws treth ei wraig yn 2018, pan ddaeth yn weinidog.
Bydd yr Arglwydd Geidt nawr yn ystyried ei ddatganiadau gweinidogol.
‘Diffyg crebwyll moesegol’
“Yr unig lythyr rydyn ni ei angen gan y Canghellor yw ei ymddiswyddiad,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae’n amlwg ei fod â diffyg crebwyll moesegol – heb sôn am brofiad bywyd – i’w ymddiried gyda chronfeydd sy’n cynnal bywyd cyhoeddus.
“Does ganddo ddim credadwyedd wrth arwain yn wleidyddol.”
Gwrthdaro rhwng buddiannau
Mae’r Blaid Lafur yn dweud bod y ddadl yn codi cwestiynau posib am wrthdaro buddiannau Rishi Sunak.
Roedd Angela Rayner, dirprwy arweinydd y blaid, wedi ysgrifennu at Boris Johnson yn dweud bod angen archwilio nifer o faterion, a’i bod hi o fewn diddordeb y cyhoedd i wybod a yw Rishi Sunak erioed wedi elwa drwy noddfeydd treth, fel statws ‘non-domicile’ ei wraig.
Mae’r statws yn golygu bod Akshata Murty wedi datgan bod ei chartref parhaol yn India, ac nad oes rhaid iddi dalu trethi’r Deyrnas Unedig ar incwm o dramor.
Erbyn hyn, mae hi wedi dweud y bydd hi’n dechrau talu trethi yn y Deyrnas Unedig ar elw o dramor.
“Y darn dydy’r Torïaid ddim i’w weld yn ei ddeall ar y funud yw’r syniad am wrthdaro buddiannau,” meddai Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda.
“Ni ddylai’r un gweinidog fyth wneud penderfyniad ar fater lle mae ganddyn nhw fudd personol.
“Os oes yna wrthdaro buddiannau, felly mae budd y cyhoedd a’r budd personol yn gwrthdaro, yna dylen nhw dynnu eu hunain allan o’r penderfyniad, dylen nhw gamu’n ôl oddi wrth y penderfyniad.
“Byddai unrhyw gynghorydd lleol yn deall, er enghraifft, os oes yna benderfyniad cynllunio ar eich stryd eich hun neu’n effeithio ar dŷ eich brawd neu dŷ eich modryb… allwch chi ddim cymryd rhan yn y penderfyniad hwnnw.
“Rydych chi’n ei ddatgan, ac rydych chi’n gadael yr ystafell.
“A dyna ddylai Sunak fod wedi bod yn ei wneud.
“Mae yna wrthdaro rhwng buddiannau i Sunak wrth wneud penderfyniadau am statws ‘non-dom’, a gwneud polisïau ar statws ‘non-dom’.
“Mae’r rheolau’n dweud bod rhaid iddo ddatgan hynny i’r gweinidogion sy’n rhan [o’r penderfyniad], mae’n rhaid iddo gamu o’r neilltu, a dylid cadw cofnodion ysgrifenedig o’r holl benderfyniadau hyn am sut i ddelio â gwrthdaro rhwng buddiannau.”
‘Dim dealltwriaeth’
Ychwanega Chris Bryant fod yna wrthdaro buddiannau pellach i Rishi Sunak, gan fod ganddo gerdyn gwyrdd Americanaidd, dogfen sy’n rhoi’r hawl iddo fynd i fyw a gweithio’n barhaol yn yr Unol Daleithiau heb ddod yn ddinesydd llawn yno.
“I Sunak, mae yna wrthdaro buddiannau wrth ddal cerdyn gwyrdd Americanaidd pan oedd e’n Ganghellor a thrafod cytundebau gydag Unol Daleithiau America, gwlad roedd e’n datgan ei fod yn bwriadu mynd i fyw yn barhaol,” meddai.
“Mae’r rhain yn fuddiannau sy’n mynd yn groes i’w gilydd.
“Rydyn ni’n gwybod nawr, dros y flwyddyn ddiwethaf, nad oes gan y set hon o weinidogion ddealltwriaeth o’r syniad syml iawn hwn am wrthdaro buddiannau.
“[Ydych chi’n] Cofio achos Owen Paterson? Fe wnaethon nhw bopeth i’w amddiffyn er ei fod yn lobïo ar ran cleientiaid oedd yn talu. Mae hynny’n fudd preifat wedi’i gymysgu â budd cyhoeddus.
“Yn y rhan fwyaf o wledydd, mae’n cael ei alw’n llygredd.”