Mae’r cwmni cyfreithiol Clarke Willmott LLP yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n parhau i noddi Clwb Criced Gwlad yr Haf.
Maen nhw wedi bod yn cynnig cyngor cyfreithiol i’r clwb ers dros 30 mlynedd, ac maen nhw’n aelodau o Glwb Busnes LBW (Leading Businesses in the West).
Byddan nhw hefyd yn noddi gemau Gwlad yr Haf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.
Yn ôl Chris Thorne, un o bartneriaid a Phennaeth Swyddfa Taunton y cwmni, maen nhw wrth eu boddau yn cael parhau i noddi’r sir “yn dilyn blwyddyn heriol eto”.
Mae Clwb Criced Gwlad yr Haf hefyd yn croesawu parhad “un o’r partneriaethau hiraf” sydd ganddyn nhw, meddai Caroline Herbert, cyfarwyddwr masnachol Clwb Criced Gwlad yr Haf.
Mae Clarke Willmott LLP yn gwmni cyfreithiol ledled y Deyrnas Unedig, ac maen nhw’n cynnig ystod eang o arbenigeddau i fusnesau ac unigolion, gan gynnwys cyngor cyfreithiol sydd wedi’i deilwra yn ôl yr angen.
Mae ganddyn nhw swyddfeydd hefyd yn Birmingham, Bryste, Llundain, Manceinion, Southampton a Taunton.