Bydd reslo WWE yn dod i Gymru ar Fedi 3, gyda digwyddiad arbennig yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Dyma’r digwyddiad reslo cyntaf mewn stadiwm yn y Deyrnas Unedig ers dros 30 mlynedd.

“Stadiwm Principality yw’r lle perffaith ar gyfer digwyddiad mawr ac i groesawu ein cefnogwyr anhygoel o Gymru, ledled Ewrop ac o amgylch y byd,” meddai John Porco, Uwch Ddirprwy Lywydd WWE sy’n gyfrifol am ddigwyddiadau byw.

“Bydd y penwythnos yn llawn amrywiaeth o brofiadau WWE rydyn ni’n credu y byddan nhw’n aros yn y cof am amser hir, yn gydradd â SummerSlam yn Wembley yn 1992.”

Mae’r digwyddiad hefyd wedi cael ei groesawu gan Lywodraeth Cymru, sy’n dweud y bydd yn cynnig cyfle i ddangos Cymru i’r byd.

“Bydd Cymru’n lleoliad eiconig ar gyfer dychweliad WWE i’r Deyrnas Unedig ar ôl 30 mlynedd, ac i ddangos ein gwlad i gynulleidfa fyd-eang o filiynau, gan gynnwys ymestyn yn eang yn yr Unol Daleithiau,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi.

“Mae disgwyl mai hwn fydd yr ychwanegiad perffaith i flwyddyn enfawr o chwaraeon, adloniant a diwylliant yng Nghymru a fydd yn denu pobol o bob rhan o’r byd i gael blas ar yr hyn sydd gan ein gwlad i’w gynnig.”

Yn ôl Mark Williams, rheolwr y stadiwm, mae denu’r digwyddiad “yn dyst i enw da’r stadiwm fel lleoliad o safon fyd-eang”.

“Mae Stadiwm Principality yn unigryw o ran ei lleoliad yng nghalon y ddinas, a fydd yn ddiau yn cynnig profiad o ddigwyddiad heb ei ail i gefnogwyr WWE, y tu fewn i’r stadiwm a thu allan, gan ddod â chryn fudd i ddinas ehangach Caerdydd.”

Mae disgwyl i wybodaeth ynghylch enw’r digwyddiad a thocynnau fod ar gael yn fuan.