Mae Michael White, y chwaraewr snwcer 30 oed o Gastell-nedd, wedi sicrhau ei le ar y gylchdaith broffesiynol unwaith eto y tymor nesaf.

Y Cymro yw’r ail chwaraewr amatur yn hanes y gêm i gyrraedd y Crucible yn Sheffield, ar ôl curo Jordan Brown o 10-8 yn rownd gymhwyso olaf Pencampwriaeth y Byd.

James Cahill oedd y chwaraewr amatur diwethaf i gymhwyso, ar ôl curo Ronnie O’Sullivan yn 2019.

Mae Michael White wedi cyrraedd y Crucible fel chwaraewr proffesiynol dair gwaith o’r blaen, ac fe gyrhaeddodd e’r rownd wyth olaf ar ei gynnig cyntaf yn 2013.

Ond fe gollodd ei ffordd yn 2020 a cholli ei le ar y gylchdaith broffesiynol.

“Mae’n golygu cymaint i fi,” meddai ar ôl sicrhau ei le fel chwaraewr proffesiynol y flwyddyn nesaf.

“Dw i wedi bod yn gweithio mor galed, a dw i’n teimlo fy mod i’n haeddu hyn.

“Dw i wedi cael problemau i ffwrdd o’r bwrdd, ond mae hynny y tu ôl i fi nawr, ac mae gen i bobol dda o ‘nghwmpas i.”