Mae Cymru’n un o bedair gwlad sydd wedi gwneud cais i gynnal rowndiau terfynol Cynghrair y Cenhedloedd y flwyddyn nesaf.
Mynegodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddiddordeb wrth i UEFA chwilio am wlad i gynnal y gystadleuaeth rhwng Mehefin 14-18, 2023.
Mae Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a Gwlad Pwyl yn y ras hefyd.
Hydref 5 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ac mae disgwyl penderfyniad erbyn mis Ionawr.
Mae’r pedair gwlad yng Ngrŵp 4 yng Nghynghrair A, gyda’r gemau i’w cynnal ym mis Mehefin a mis Medi eleni.
Bydd y rowndiau terfynol yn cynnwys enillwyr pob un o’r grwpiau, gydag enillwyr y gemau cyn-derfynol yn herio’i gilydd yn y rownd derfynol ac felly, y disgwyl yw y bydd rhaid i Gymru ennill eu grŵp er mwyn cynnal y gystadleuaeth.
Yr Eidal oedd lleoliad y rowndiau terfynol fis Hydref y llynedd, wrth i Ffrainc guro Sbaen.
Mae Cymru hefyd yn rhan o gais rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig ac Iwerddon i gynnal Ewro 2028.