Mae Marnus Labuschagne, y seren tramor o Awstralia, wedi’i gynnwys yng ngharfan griced Morgannwg ar gyfer y daith i Trent Bridge i herio Swydd Nottingham yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Iau, Ebrill 14).

Mae’n golygu nad oes lle i Colin Ingram, y batiwr o Dde Affrica sy’n chwarae fel chwaraewr tramor eleni ac a sgoriodd 87 yn y batiad cyntaf yn erbyn Durham yr wythnos ddiwethaf, gyda’r bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Neser, wedi’i enwi yn y garfan fel ail chwaraewr tramor.

Does dim lle yn y garfan chwaith i’r wicedwr Tom Cullen, a bydd Andrew Salter yn parhau i agor y batio gyda David Lloyd yn absenoldeb Eddie Byrom, sy’n gwella ar ôl llawdriniaeth.

Gyda’r bêl, cipiodd Andrew Salter ffigurau gorau ei yrfa, saith wiced am 45, yn y gêm agoriadol, a’r ffigurau gorau gan droellwr i Forgannwg ers Robert Croft yn 1992.

Ymateb y prif hyfforddwr

Mae’r prif hyfforddwr Matthew Maynard yn cydnabod fod yr ornest yn debygol o fod yn un anodd i Forgannwg, gyda Swydd Nottingham ar frig yr Ail Adran ar ôl gêm gynta’r tymor.

“Mae Notts wedi canfod ffordd o ennill dros y tymhorau dwytha’, ac mi fyddan nhw’n hapus efo cychwyn yr ymgyrch ar ôl cael buddugoliaeth dda dros Sussex, ond rydan ni’n edrych ymlaen at yr her,” meddai.

“Mae o’n anodd i Colin Ingram, sydd wedi gwneud cryn dipyn o baratoi ar gyfer yr ymgyrch, ac wedi dangos yn y batiad cyntaf y fath chwaraewr o safon ydi o.

“Rydan ni’n ffodus fod gennon ni’r batiwr gorau mewn gemau prawf yn y byd, ac rydan ni’n edrych ymlaen at ei gael o, a gobeithio fydd Michael Neser yn holliach ar gyfer Trent Bridge hefyd.

“Fel tîm rheoli, mae gennon ni benderfyniad anodd ynghylch pa unarddeg i’w dewis oherwydd bowliodd ein pedwar bowliwr sêm yn dda yn ogystal ag Andrew Salter, fydd ddim yn colli allan gan ei fod o’n agor y batio.

Gemau’r gorffennol

Y tro diwethaf i Forgannwg deithio i Trent Bridge, haf diwethaf, daethon nhw adref â Thlws Royal London.

Ond dydyn nhw ddim wedi chwarae yno yn y Bencampwriaeth ers 2007, pan gafodd Morgannwg grasfa o fatiad wrth i Jason Gallian a Samit Patel daro canred yr un i’r Saeson. Yn ddiweddarach yr haf hwnnw, enillodd Morgannwg o 55 rhediad yn San Helen yn Abertawe, gyda Robert Croft yn sgorio 115 a James Harris 87, cyn i Dean Cosker gipio cyfanswm o naw wiced.

Daeth eu gêm ddiwethaf yn erbyn ei gilydd yn y Bencampwriaeth, serch hynny, yn 2017 pan adeiladodd Colin Ingram a Chris Cooke bartneriaeth o 226 am y chweched wiced i achub yr ornest ar ôl i Forgannwg orfod canlyn ymlaen.

Mae Morgannwg wedi chwarae 49 o gemau yn y Bencampwriaeth yn Trent Bridge, ond dydyn nhw ddim wedi ennill yno ers 1998, a hynny o 46 rhediad diolch i ganred batiad cyntaf gan Steve James, cyn i Darren Thomas gipio pedair wiced mewn gornest a gafodd ei chwtogi gan y glaw.

Steve James sydd â’r sgôr uchaf erioed yn y Bencampwriaeth yn Swydd Nottingham, ar ôl taro 235 yn Worksop yn 1996, gyda’r ffigurau bowlio gorau erioed (wyth wiced am 36 yn 1953) yn dal i fod yn record i’r troellwr Jim McConnon.

Cerrig milltir

Gydag Andrew Salter bellach wedi cipio 100 o wicedi dosbarth cyntaf i Forgannwg, mae sawl chwaraewr arall yn closio at gerrig milltir.

Hon fydd 50fed gêm ddosbarth cyntaf Kiran Carlson i’r sir, gyda Chris Cooke un i ffwrdd o’i ganfed gêm.

Mae angen chwe wiced ar yr Iseldirwr Timm van der Gugten ar gyfer 200 mewn gemau dosbarth cyntaf, a 52 rhediad ar gyfer 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf.

Carfan Swydd Nottingham: J Clarke, B Duckett, J Evison, H Hameed, C Harrison, B Hutton, L James, T Moores, S Mullaney (capten), D Paterson, L Patterson-White, J Pattinson, B Slater

Carfan Morgannwg: D Lloyd (capten), K Carlson, C Cooke, D Douthwaite, J Harris, M Hogan, M Labuschagne, M Neser, S Northeast, A Salter, C Taylor, T van der Gugten, J Weighell

Sgorfwrdd