Bydd y ddau Gymro Mark Williams a Michael White yn herio’i gilydd yn rownd gyntaf Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn y Crucible yn Sheffield.

Williams, sy’n hanu o bentref Cwm yng Ngwent, yw’r unig Gymro ymhlith y prif ddetholion.

Chwe Chymro sydd yn y rownd gyntaf, sef y nifer fwyaf ers 1990 pan oedd wyth – Mark Bennett, Tony Chappel, Terry Griffiths, Wayne Jones, Darren Morgan, Doug Mountjoy, Steve Newbury a Cliff Wilson.

Roedd pump i gyd yn 2012, sef Dominic Dale, Ryan Day, Jamie Jones, Matthew Stevens a Mark Williams.

Yng ngemau’r Cymry eraill yn y rownd gyntaf eleni, bydd Jamie Jones yn herio’r Sais Mark Selby, Jackson Page yn wynebu Sais arall Barry Hawkins, Matthew Stevens yn erbyn y Sais Jack Lisowski, a Jamie Clark yn mynd benben â Zhao Xintong o Tsieina.

Bydd y rownd gynta’n dechrau ddydd Sadwrn (Ebrill 16).