Mae FIFA wedi cadarnhau y bydd tîm pêl-droed Cymru’n chwarae eu gêm ail gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar ar Fehefin 5.
Wcráin neu’r Alban fydd eu gwrthwynebwyr, gyda’r gêm gyn-derfynol honno yn Glasgow wedi’i gohirio o fis Mawrth tan Fehefin 1 yn sgil y rhyfel yn Wcráin.
Mae Wcráin bellach yn hyderus y bydd y gêm yn gallu cael ei chynnal ar y dyddiad newydd.
Bydd yr enillwyr yn ymuno â Lloegr, Iran a’r Unol Daleithiau yn Qatar ar ddiwedd y flwyddyn.
Ymateb y Gymdeithas Bêl-droed
“Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw gan FIFA ac UEFA am Rownd Derfynol Gemau Ail-Gyfle Cwpan y Byd a gemau Cynghrair y Cenhedloedd ym mis Mehefin, tra ein bod ni’n falch o weld y mater yn cael ei ddatrys, mae gennym gymdeimlad llwyr â’n cefnogwyr a’r anghyfleustra mae hyn wedi’i achosi,” meddai Steve Williams, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru lobïo’r ddau gorff llywodraethu i leihau’r anghyfleustra gymaint â phosib i’n cefnogwyr, tra ein bod ni hefyd yn cydnabod y sefyllfa ddi-gynsail y cawn ein hunain ynddi heb fod bai ar neb sydd ynghlwm wrthi.
“Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth y Wal Goch; rydych chi’n hollol ganolog i lwyddiant y tîm ar y cae, a bydd eich angen chi’n fwy nag erioed yng Ngêm Derfynol y Gemau Ail Gyfle ym mis Mehefin.”
Trefn gemau Cymru
Dyma drefn gemau Cymru sydd i ddod, gydag amserau’r gic gyntaf i’w cadarnhau maes o law.
Mehefin 1: Gwlad Pwyl v Cymru (Cynghrair y Cenhedloedd)
Mehefin 5: Gêm Derfynol Gemau Ail Gyfle Cwpan y Byd
Mehefin 8: Cymru v Yr Iseldiroedd (Cynghrair y Cenhedloedd)
Mehefin 11: Cymru v Gwlad Belg (Cynghrair y Cenhedloedd)
Mehefin 14: Yr Iseldiroedd v Cymru (Cynghrair y Cenhedloedd)