Tarodd Ben Duckett 122 i Swydd Nottingham, sydd dan rywfaint o bwysau ar ddiwedd diwrnod cyntaf gornest Morgannwg yn Trent Bridge.

Cafodd Morgannwg hwb cyn y daith i ganolbarth Lloegr, wrth i Marnus Labuschagne ddychwelyd o Awstralia, ac fe gafodd ei ddewis ar draul Colin Ingram, gyda’r newid arall yn y tîm yn gweld Michael Neser, yr Awstraliad tramor arall, yn disodli’r Cymro James Harris ymhlith y bowlwyr.

Bowliodd Morgannwg ar lain werdd, a chymerodd hi lai na phedair pelawd i Neser gipio wiced, wrth i Ben Slater yrru at Sam Northeast yn y slip.

Wrth i James Weighell a Timm van der Gugten ddechrau bowlio, fe ddechreuon nhw roi pwysau ar y batwyr, a doedd hi ddim yn hir cyn i Duckett gael ei redeg allan gan Weighell, wrth i’r bowliwr ymestyn ei droed a chicio’r bêl at y wiced gyda Haseeb Hameed yr ochr anghywir i’r llain.

Bu bron i Duckett gael ei ddal yn y slip wrth geisio gyrru David Lloyd ar yr ochr agored, ond fe oroesodd ac roedd y Saeson yn 108 am ddwy erbyn amser cinio.

Sesiwn y prynhawn

Cipiodd Morgannwg eu pwynt bowlio cyntaf yn fuan ar ôl yr egwyl, wrth i Joe Clarke gael ei fowlio gan Timm van der Gugten, a’i dîm yn 136 am dair.

Cyrhaeddodd Duckett ei hanner canred oddi ar 104 o belenni, cyn i Joey Evison gael ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan van der Gugten.

Ar ôl cosbi’r bowlio am gyfnod cyn te, cyrhaeddodd Duckett ei ganred oddi ar 169 o belenni, a’i dîm yn 223 am bedair.

Y sesiwn olaf

Roedd Ben Duckett a Steven Mullaney wedi adeiladu partneriaeth o gant cyn i Mullaney gam-ergydio at Sam Northeast yn y cyfar, a’r sgôr yn 258 am bump.

Bum pelen yn unig oedd eu hangen i Marnus Labuschagne gipio’i wiced gyntaf y tymor hwn, ond bowlio sêm oedd e yn hytrach na throelli’r bêl, ac fe wnaeth e ddarganfod ymyl bat Tom Moores, a roddodd ddaliad syml i Chris Cooke y tu ôl i’r wiced.

Yn y belawd nesaf, tarodd Michael Hogan goes Liam Patterson-White o flaen y wiced ac roedd Swydd Nottingham yn 270 am wyth pan darodd Duckett y bêl yn ôl at y bowliwr Labuschagne.

Gyda’r bêl newydd, fe wnaeth Neser fowlio Brett Hutton, gyda diwedd y batiad yn cael ei chwarae o dan y goleuadau gyda’r golau naturiol yn pylu.

Tarodd James Pattinson gyfres o ergydion i’r ffin i sicrhau bod ei dîm yn cyrraedd 300 i ennill pwynt batio arall, ond fe darodd e’r bêl yn syth yn ôl at y bowliwr Neser i ddod â’r batiad i ben.

Batiad Morgannwg

Wrth ymateb i 302 Swydd Nottingham, bu’n rhaid i Forgannwg wynebu pum pelawd ar ddiwedd y dydd.

David Lloyd ac Andrew Salter, y cyfuniad Cymreig, agorodd y batio yn erbyn Pattinson a Hutton ac mae’n debyg mai’r un pedwar chwaraewr fydd yn wynebu ei gilydd ar ddechrau’r ail ddiwrnod.

“O alw’n gywir a bowlio, fe wnaethon ni wyro ychydig a bowlio’n rhy llawn ond gyda’r ffordd ddaeth Michael Hogan a Timm van der Gugten allan a phwyso, a’r ffordd wnaethon ni orffen gan gipio chwe wiced yn y sesiwn olaf, mae hyny’n gadael y diwrnod yn y fantol,” meddai’r is-hyfforddwr David Harrison.

Sgorfwrdd

Marnus Labuschagne yn dychwelyd ar gyfer y daith i Trent Bridge

Ond Morgannwg wedi hepgor Colin Ingram wrth i’r Awstraliad ddychwelyd