Does dim angen meddwl yn ôl yn rhy bell ar gyfer ymweliad diwethaf Barnsley â’r stadiwm hon, ac mae’n siŵr y bydd pawb yn cofio’r achlysur am flynyddoedd i ddod. Roedd yr Elyrch newydd guro Barnsley o 1-0 ar eu tomen eu hunain diolch i gôl Andre Ayew, ac yn llygadu lle yn rownd derfynol y gemau ail gyfle am yr ail dymor yn olynol.
38 munud gymerodd hi i’r Elyrch ddyblu eu mantais i 2-0 dros y ddau gymal, gyda’r capten Matt Grimes yn taro chwip o ergyd o ymyl y cwrt cosbi. Roedd ganddyn nhw funudau digon nerfus yn niwedd yr ornest ar ôl i Cauley Woodrow grafu gôl yn ôl i’r ymwelwyr ar ôl 70 munud. Ond ar ôl trechu tîm Valerien Ismael, gornest yn erbyn Brentford yn Wembley oedd y wobr am ymdrechion tîm Steve Cooper. Prin y byddai neb wedi dyfalu bryd hynny mai hon fyddai gêm ola’r rheolwr wrth y llyw, ac fe fyddai dyrchafiad wedi bod yn wobr deilwng am ddau dymor llwyddiannus o dan y Cymro o Bontypridd.
Gyda chwe gêm yn weddill o’r tymor hwn, mae’r Elyrch yn ddi-guro mewn pum gêm ond mae’n deg dweud bod unrhyw obaith o gyrraedd y gemau ail gyfle’n prysur ddiflannu, gydag wyth pwynt yn gwahanu tîm Russell Martin, sy’n bedwerydd ar ddeg, a’r safleoedd ail gyfle. Byddai’n cymryd ymdrech arwrol erbyn hyn i gyflawni hynny, ac mae gorffen yn hanner ucha’r tabl yn darged llawer mwy realistig ac yn rhywbeth sydd wedi edrych yn annhebygol ar adegau yn ystod y tymor diolch i ganlyniadau anghyson.
Un gwahaniaeth mawr yn y canlyniadau’n ddiweddar, serch hynny, yw fod Joel Piroe a Michael Obafemi wedi bod yn darganfod y rhwyd yn hawdd, gyda phedair gôl yr un yn y pum gêm ddiwethaf, a Piroe bellach wedi cyrraedd y garreg filltir o 20 o goliau yn ystod y tymor.
Pe bai’r rhediad diweddar hwn o fuddugoliaethau wedi dechrau’n gynt yn y tymor, gallai’r Elyrch fod wedi bod mewn sefyllfa dipyn gwell wrth wynebu’r gemau olaf hyn. Mae’n rhaid mynd yn ôl mor bell â 1974 ar gyfer buddugoliaeth ddiwethaf Barnsley yn Abertawe, gyda Bobby Doyle, Brian Mahoney a Paul O’Riley yn sgorio i’r ymwelwyr, felly bydd Abertawe’n ddigon hyderus o barhau â’u rhediad da heddiw.
Ar Ddydd Gwener y Groglith y llynedd, roedd yr Elyrch oddi cartref yn Birmingham. Ond fe gollon nhw o 1-0, a’r canlyniad yn golygu bod rhaid iddyn nhw fodloni ar le yn y gemau ail gyfle yn hytrach na dyrchafiad awtomatig, gan eu bod nhw naw pwynt y tu ôl i Watford erbyn hynny. Y tro hwn, mae’n frwydr i gyrraedd y gemau ail gyfle.
Olivier Ntcham a Jamie Paterson sgoriodd yn y fuddugoliaeth o 2-0 yn Barnsley fis Tachwedd. Y dwbl amadani heddiw?