Roedd partneriaethau’n allweddol i dîm criced Morgannwg ar ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Nottingham yn Trent Bridge, wrth i’r sir Gymreig orffen y dydd 52 rhediad ar y blaen gydag un wiced yn weddill o’u batiad cyntaf.

Bu’n rhaid i Forgannwg wynebu pum pelawd ar ddiwedd y diwrnod cyntaf ar ôl bowlio’r tîm cartref allan am 302, ac ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, mae Morgannwg yn 354 am naw, diolch i ddwy bartneriaeth o fwy na chant yr un.

Dechreuodd Morgannwg ar 33 heb golli wiced, ond dwy belawd yn unig gymerodd hi i’r Saeson gipio’r wiced gyntaf, wrth i Andrew Salter, sy’n agor y batio fel arbrawf, ddarganfod dwylo diogel Joe Clarke yn y slip oddi ar fowlio James Pattinson.

Wnaeth Marnus Labuschagne ddim para’n hir iawn ar ôl cyrraedd o Awstralia, ac yntau wedi’i daro ar ei goes o flaen y wiced gan Brett Hutton belawd yn ddiweddarach.

Batiodd Sam Northeast a David Lloyd yn gadarn wrth iddyn nhw geisio osgoi chwalfa ar frig y rhestr fatio, a buan y gwnaeth y gogleddwr Lloyd gyrraedd ei hanner canred oddi ar 70 o belenni, wrth i Northeast barhau i ergydio ben draw’r llain.

Roedd Morgannwg, felly, yn 130 am ddwy erbyn amser cinio, a Lloyd o Wrecsam yn dal wrth y llain, heb fod allan ar 58.

Sesiwn y prynhawn

Parhau i glatsio wnaeth y batwyr wedi’r egwyl, a chyrhaeddodd Northeast ei hanner canred oddi ar 103 o belenni.

Does yna’r un o fatwyr Morgannwg wedi taro canred yn Trent Bridge ers Steve James yn 1998, ac roedd Lloyd yn edrych fel pe bai’n llygadu’r record fach honno cyn i Brett Hutton ddarganfod ymyl ei fat i roi daliad syml i Ben Duckett yn y slip i ddod â phartneriaeth o 117 i ben, gyda’r ddau fatiwr wrth y llain gyda’i gilydd am 37 pelawd.

Goroesodd Kiran Carlson, yr is-gapten o Gaerydd, gyfle am ddaliad wrth i Haseeb Hameed ollwng y bêl yn y slip, ac fe darodd e sawl ergyd i’r ffin cyn cael ei ddal gan y wicedwr Tom Moores oddi ar fowlio Joey Evison, a gipiodd wiced Chris Cooke yn ei belawd ganlynol, a’r sgôr yn 200 am bump.

Ond fe wnaeth 200 am bump droi’n 214 am chwech wrth i Callum Taylor daro’r bêl at Joe Clarke yn y slip oddi ar fowlio Dane Paterson.

Y sesiwn olaf

Dechreuodd Morgannwg y sesiwn olaf ar 233 am chwech ac roedd Michael Neser yn barod i glatsio, wrth i belen oddi ar fowlio Evison lanio yn yr eisteddle am chwech.

Ond cafodd y batiwr o Awstralia ei fowlio oddi ar y belen ganlynol, ac fe wnaeth 248 am saith droi’n 248 am wyth wrth i Northeast gael ei fowlio gan Paterson am 85.

Gyda James Weighell a Timm van der Gugten wrth y llain, roedd gan Forgannwg ddau chwaraewr amryddawn sy’n gallu batio, ac fe ddangoson nhw hynny’n gynnar yn eu partneriaeth gyda chyfres o ergydion i’r ffin ar ôl i’r tîm cartref dderbyn y bêl newydd.

Daeth trydydd pwynt batio Morgannwg ar ôl 84 pelawd, ac fe aeth Morgannwg ar y blaen drwy ergyd i’r ffin gan Weighell wrth iddo dynnu pelen gan Paterson.

Parhau i glatsio wnaethon nhw, ac fe gyrhaeddodd van der Gugten ei hanner canred oddi ar 80 o belenni, a buan yr oedd y ddau fatiwr wedi adeiladu partneriaeth o gant am y nawfed wiced, gyda van der Gugten hefyd yn cyrraedd y garreg filltir o 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ei yrfa. Mae e’n dal wrth y llain ar 56.

Daeth pwynt batio arall i Forgannwg am gyrraedd 350 a tharodd yr Iseldirwr ergyd arall i’r ffin cyn i Weighell ddarganfod dwylo’r wicedwr Moores oddi ar fowlio Liam Patterson-White i adael Morgannwg yn 354 am naw wrth i’r chwarae ddirwyn i ben.

Ymateb Morgannwg

“Roedd yn ddiwrnod da yn y pen draw, yn enwedig y bartneriaeth fach honno [Weighell a van der Gugten] ar y diwedd, oedd wedi symud pethau o’n plaid ni ychydig bach, ond mae ffordd bell i fynd,” meddai Sam Northeast.

Sgorfwrdd

Trent Bridge

Canred i Ben Duckett wrth i Forgannwg roi pwysau ar Swydd Nottingham

Sgoriodd y tîm cartref 302 yn eu batiad cyntaf, ac mae Morgannwg yn 33 heb golli wiced wrth ymateb

Marnus Labuschagne yn dychwelyd ar gyfer y daith i Trent Bridge

Ond Morgannwg wedi hepgor Colin Ingram wrth i’r Awstraliad ddychwelyd