Mae disgwyl nifer o newidiadau yn nhîm pêl-droed Caerdydd ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Luton ar Ddydd Llun y Pasg, yn dilyn perfformiad “erchyll” yn ystod hanner cynta’r gêm yn erbyn Hull.
Collodd yr Adar Gleision o 2-1 ar Ddydd Gwener y Groglith, ac mae disgwyl i’r amddiffynnwr Mark McGuinness dalu’r pris, ond gallai Tommy Doyle a Rubin Colwill gael eu dyrchafu i’r unarddeg ar ôl dechrau’r gêm ddydd Gwener ar y fainc.
Mae Sean Morrison allan am weddill y tymor, ond does gan yr Adar Gleision ddim anafiadau eraill.
Bydd Luton heb eu capten Sonny Bradley, sydd wedi’i wahardd yn dilyn cerdyn coch yn erbyn Nottingham Forest ddydd Gwener.
Mae Pelly-Ruddock Mpanzu a Henri Lansbury yn debygol o fod allan yn sgil anafiadau, tra bod Gabe Osho allan am weddill y tymor oherwydd anaf, gyda Jordan Clark a Luke Berry allan yn sgil anafiadau hefyd.