Mae Harry Wilson wedi’i enwebu ar gyfer gwobr Chwaraewr y Flwyddyn y Bencampwriaeth yng ngwobrau’r Gynghrair Bêl-droed y tymor hwn, ac fe fydd e’n cystadlu yn erbyn Aleksandar Mitrovic a Dominic Solanke am y wobr.
Bydd enwau’r holl enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar Ebrill 24 yn ystod noson yng ngwesty’r Grosvenor House yn Llundain.
Mae’r Cymro Wilson wedi sgorio deg gôl mewn 35 o gemau ac wedi cyfrannu at nifer sylweddol o goliau i Fulham y tymor hwn wrth iddyn nhw geisio ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.
Mae ei gyd-chwaraewr Mitrovic wedi sgorio 38 o goliau i sicrhau bod ei dîm yn cyrraedd brig y Bencampwriaeth.
Mae gan Dominic Solanke 24 o goliau yn y gynghrair i Bournemouth.
Mae Dominic Telford wedi sgorio 22 o goliau mewn 19 o gemau i Gasnewydd yn yr Ail Adran, ac mae e’n mynd ben-ben â Kane Wilson a Matty Stevens am Chwaraewr y Flwyddyn yr adran honno.
Mae Brennan Johnson wedi’i enwebu ar gyfer gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yn sgil ei berfformiadau i Nottingham Forest, ac mae e’n cystadlu yn erbyn Djed Spence (Nottingham Forest) a Fabio Carvalho o Fulham.
Mae Finn Aziz o Gasnewydd wedi’i enwebu ar gyfer Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yn yr Ail Adran, ac yn cystadlu am y wobr yn erbyn Connor Taylor (Bristol Rovers) a Shadrach Ogie (Leyton Orient).
Bydd Tîm a Rheolwr y Flwyddyn ym mhob adran yn cael eu cyhoeddi yn ystod y noson, yn ogystal â Gôl Orau’r Tymor.