Mae disgwyl i Olivier Ntcham a Flynn Downes fod ar gael i Abertawe wrth iddyn nhw herio Reading ar Ddydd Llun y Pasg.
Mae Ntcham yn ymprydio yn ystod Ramadan, ac mae’r clwb yn hwyluso hynny, tra bod Downes yn parhau i wella o anaf.
Dydy Ntcham ddim yn gallu bwyta yn ystod y dydd rhwng Ebrill 1 a Mai yn sgil ei grefydd, a dim ond fel eilydd y bu’n chwarae yn ystod y cyfnod hwn.
Sgoriodd e fel eilydd yn y gêm yn erbyn Barnsley ar Ddydd Gwener y Groglith.
Mae Downes yn ymarfer eto ar ôl gwella o anaf i’w benglin, ond dydy e ddim wedi chwarae ers y gêm ddarbi fawr yn erbyn Caerdydd ar Ebrill 2.
Mae’r Elyrch yn ddi-guro mewn chwe gêm, gan ennill 14 allan o 18 pwynt.
Mae Reading yn gobeithio y bydd yr ymosodwr Lucas Joao ar gael ar ôl anafu llinyn y gâr a does gan y rheolwr Paul Ince fawr o opsiynau ymosodol fel arall.
Mae disgwyl i’r chwaraewr canol cae John Swift fod allan ag anaf i’w goes, tra bod Baba Rahman a Tom McIntyre yn gobeithio dechrau’r gêm.
Mae Reading naw pwynt uwchlaw safleoedd y gwymp erbyn hyn, tra bod gan yr Elyrch rywfaint o obaith o hyd o gyrraedd y gemau ail gyfle.