Mae tîm criced Morgannwg mewn sefyllfa gref i gipio’u buddugoliaeth gyntaf yn erbyn Swydd Nottingham yn y Bencampwriaeth yn Trent Bridge ers 1998.

Roedd ganddyn nhw flaenoriaeth batiad cyntaf o 77, gyda Timm van der Gugten (62) yn helpu Morgannwg i ychwanegu 131 o rediadau am y ddwy wiced olaf, cyn i Swydd Nottingham orffen y trydydd diwrnod ar 224 am wyth – gyda’r Iseldirwr yn cipio pedair wiced am 51 gyda’r bêl.

Daeth ei bedair wiced ar ôl te, gan gynnwys Ben Duckett, oedd allan am 95 wrth anelu am ei ail ganred yn yr ornest, gyda’i dîm ar y blaen o 147 gyda dim ond dwy wiced o’u hail fatiad yn weddill.

Wrth i Swydd Nottingham frwydro’n galed, ychwanegodd Brett Hutton a Joey Evison 37 mewn 14 pelawd.

Cipiodd Timm van der Gugten ei 200fed wiced dosbarth cyntaf i Forgannwg yn ystod y dydd.

Manylion y dydd

Cymerodd Swydd Nottingham saith pelawd ar ddechrau’r trydydd diwrnod i gipio wiced olaf Morgannwg, wrth i Timm van der Gugten ddarganfod dwylo diogel Joe Clarke wrth gam-yrru ar yr ochr agored oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Liam Patterson-White.

Ar ddechrau batiad Swydd Nottingham, cipiodd Michael Hogan wicedi’r ddau agorwr heb fod y naill na’r llall wedi sgorio, gyda Haseeb Hameed yn canfod Kiran Carlson yn y gyli, a phelen fer arall yn canfod dwylo’r wicedwr Chris Cooke wrth i Ben Slater geisio tynnu’r bêl.

Aeth Swydd Nottingham o un am ddwy i 45 am ddwy erbyn amser cinio, ond bowliodd Hogan a van der Gugten yn gywir wedi’r egwyl i gyfyngu’r rhediadau, cyn i Michael Neser gipio wiced Clarke, wedi’i ddal gan y wicedwr oddi ar ymyl y bat.

Ar ôl goroesi hanner cyfle am ddaliad ar 32, aeth Ben Duckett yn ei flaen i ymosod, gan gyrraedd ei hanner canred gydag ergyd i’r ffin oddi ar fowlio Neser, cyn taro tair ergyd arall i’r ffin oddi ar fowlio’r troellwr Andrew Salter.

Cafodd y wicedwr Cooke ddaliad arall wrth i Steven Mullaney hanner ergydio oddi ar fowlio James Weighell y tu allan i’r ffon agored ac erbyn te, roedd Duckett yn ei 90au gyda blaenoriaeth ei dîm bellach yn ddim ond 81.

Daeth y wiced fawr bedair pelawd ar ôl te, wrth i Duckett chwarae ergyd wael oddi ar fowlio van der Gugten, gyda David Lloyd yn cipio’r daliad yn y slip.

Cipiodd van der Gugten ei ail wiced wrth daro coes Patterson-White o flaen y wiced, a’i drydedd pan gipiodd Sam Northeast chwip o ddaliad i waredu Tom Moores yn y slip.

Daeth ei bedwaredd wrth i Northeast ddal y bêl yn isel i waredu James Pattinson.

Gyda Swydd Nottingham yn 224 am wyth, 147 o rediadau ar y blaen, bydd Morgannwg yn teimlo’n eithaf hyderus fod modd iddyn nhw gau pen y mwdwl ar yr ornest ar y diwrnod olaf.

Ymateb Morgannwg

“Bydd hi’n ddiddorol cwrso fory, dw i’n meddwl,” meddai Timm van der Gugten.

“Fel y gwelsoch chi heddiw, dw i’n meddwl os ydych chi’n aros o gwmpas yn ddigon hir, mae digon yno i’r bowlwyr.

“Bydd rhaid i ni fatio’n dda ond gobeithio y gallwn ni gipio’r ddwy wiced bore fory a chwrso’n dda wedyn.

“Roedd hi’n braf cael treulio amser yn y canol.

“Dw i bob amser yn mwynhau batio, dw i ddim yn dueddol o bara cyhyd ag y gwnes i, felly roedd hi’n eithaf braf cael treulio amser allan yno!

“Ar ôl fy nhair pelawd gyntaf bore ’ma, ro’n i’n teimlo bod gyda fi rhythm da ac a bod yn deg, dw i’n credu bod yr holl fowlwyr wedi bowlio’n rhagorol heddiw.”

Sgorfwrdd

Timm van der Gugten

Partneriaethau’n helpu Morgannwg i adeiladu blaenoriaeth yn Trent Bridge

Maen nhw ar y blaen o 52 rhediad yn erbyn Swydd Nottingham gydag un wiced batiad cyntaf yn weddill
Trent Bridge

Canred i Ben Duckett wrth i Forgannwg roi pwysau ar Swydd Nottingham

Sgoriodd y tîm cartref 302 yn eu batiad cyntaf, ac mae Morgannwg yn 33 heb golli wiced wrth ymateb

Marnus Labuschagne yn dychwelyd ar gyfer y daith i Trent Bridge

Ond Morgannwg wedi hepgor Colin Ingram wrth i’r Awstraliad ddychwelyd