Mae tîm criced Morgannwg wedi curo Swydd Nottingham o saith wiced yn y Bencampwriaeth yn Trent Bridge – eu buddugoliaeth gyntaf yno mewn gemau pedwar diwrnod ers 1998, a’u buddugoliaeth gyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.
Seren y gêm i’r sir Gymreig oedd yr Iseldirwr Timm van der Gugten, a gyrhaeddodd gerrig milltir gyda’r bat a’r bêl yn ystod yr ornest.
Roedd angen 52 rhediad arno fe am gyfanswm o 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ei yrfa, ac fe darodd e 62 oddi ar 115 o belenni yn y batiad cyntaf i gyrraedd y garreg filltir gyntaf honno.
Gyda’r bêl, fe gipiodd e ddwy wiced yn y batiad cyntaf, a phedair am wyth rediad oddi ar naw pelawd yn yr ail fatiad i gyrraedd ei 200fed wiced dosbarth cyntaf wrth i James Pattinson gael ei ddal gan Sam Northeast.
Y bore olaf
Dechreuodd Swydd Nottingham y diwrnod olaf ar 224 am wyth yn eu hail fatiad, 147 o rediadau ar y blaen.
Ar ôl ei orchestion ddoe, dychwelodd van der Gugten i’r ymosod gyda Michael Hogan, a gipiodd wiced gynta’r dydd wrth fowlio Brett Hutton.
Wrth i Forgannwg droi at James Weighell, daeth ail wiced i Forgannwg, a wiced ola’r batiad, wrth i Joey Evison gael ei ddal gan Chris Cooke wrth geisio tynnu pelen.
Roedd gan Forgannwg o leiaf 84 o belawdau, felly, i gyrraedd y nod ac fe ychwanegodd David Lloyd ac Andrew Salter 42 am y wiced gyntaf cyn i Liam Patterson-White daro coes Salter o flaen y wiced am 16 ryw ugain munud cyn cinio.
Roedd ail wiced cyn cinio, wrth i Lloyd osgoi pelen gan Dane Paterson a chael ei fowlio am 23 oddi ar belen ola’r sesiwn, a’i dîm yn 52 am ddwy.
Y prynhawn olaf
Daeth Sam Northeast i’r llain ar ôl cinio i ymuno â Marnus Labuschagne, ac roedd angen 114 yn rhagor ar Forgannwg i ennill oddi ar 65.1 o belawdau.
Ychwanegon nhw 40 am y drydedd wiced cyn i Northeast dynnu pelen gan James Pattinson at Dane Paterson yn safle’r goes fain bell, a’r maeswr yn dal y bêl dros ei ben.
Gyda’r sgôr yn 92 am dair, daeth Kiran Carlson i’r llain yn benderfynol ac fe ychwanegodd e a Labuschagne y 74 oedd eu hangen am y fuddugoliaeth, gyda’r Awstraliad Labuschagne hefyd yn cyrraedd ei hanner canred oddi ar 93 o belenni cyn taro’r ergyd chwech fuddugol.
Ymateb Morgannwg
“Roeddan ni o hyd yn hyderus ond ar yr un pryd, rydach chi’n nerfus oherwydd mae gynnon nhw uned fowlio gref iawn, ac roedd yn rhaid i ni weithio’n galed am y rhediadau,” meddai’r capten David Lloyd wrth y BBC.
“Roedd y pedwar diwrnod yn wych, roedd ymdrechion yr hogiau bob dydd yn anhygoel ac mae’n rhaid brwydro’n galed am fuddugoliaethau felly.
“Batiodd Marnus a Kiran ill dau yn dda iawn, chwaraeon nhw efo bwriad go iawn a dyna rydan ni ei angen. Ddaru ni gwrso’n dda iawn.
“Rydan ni wedi gweithio’n galed dros y gaeaf efo ochr feddyliol y gêm hefyd, rydan ni’n perfformio’n dda yn erbyn y timau mawr, mae angen i ni fod yn gyson a’r prif beth i ni wrth symud ymlaen ydi ein cysondeb efo popeth rydan ni’n ei wneud.”