Roedd penwythnos hir y Pasg yn golygu penwythnos prysur i sawl tîm pêl droed gyda dwy rownd o gemau mewn ambell gynghrair. Sut hwyl a gafodd y Cymry felly?

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Roedd canlyniad siomedig i Ben Davies a Tottenham ddydd Sadwrn, yn colli o gôl i ddim yn erbyn Brighton. Chwaraeodd Davies y gêm gyfan ac ar y fainc yr oedd Joe Rodon.

Ar y fainc yr oedd Fin Stevens hefyd wrth i Brentford gael buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn erbyn Watford. Ond â hwythau bellach yn ddiogel yn dilyn tair buddugoliaeth yn olynol, efallai y gwelwn fwy o’r Cymro ifanc rhwng hyn a diwedd y tymor.

Daeth diswyddiad Sean Dyche o Burnley fel dipyn o syndod yr wythnos hon a dechrau ar y fainc a wnaeth Connor Roberts a Wayne Hennessey yng ngêm gyntaf y rheolwr dros dro Mike Jackson wrth y llyw ddydd Sul. Un gôl yr un a oedd hi yn erbyn West Ham, gyda Roberts yn dod i’r cae fel eilydd am yr hanner awr olaf.

Mae Danny Ward yn parhau i fod wedi’i anafu i Gaerlŷr a chafodd Dan James y penwythnos i ffwrdd gan nad oedd gan Leeds gêm.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Roedd dwy gêm i ran fwyaf o dimau’r Bencampwriaeth y penwythnos hwn, un ddydd Gwener ac un arall ddydd Llun.

Cafodd Abertawe gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Barnsley cyn ildio tair gôl hwyr a gorfod bodloni ar gêm gyfartal bedair gôl yr un yn Reading. Chwaraeodd Ben Cabango y ddwy gêm gyfan a chafodd Cameron Congreve ychydig funudau yn erbyn Barnsley.

Colli o ddwy gôl i un yn Hull cyn colli o un i ddim gartref yn erbyn Luton a oedd hanes Caerdydd. Chwaraeodd Will Vaulks, Isaak Davies a Rubin Colwill unai o’r dechrau neu oddi ar y fainc yn y ddwy gêm a dechreuodd Mark Harris yn erbyn Hull.

Bu’n rhaid i Fulham aros am ychydig ddyddiau i gadarnhau eu lle yn ôl yn yr Uwch Gynghrair ar ôl colli yn erbyn Derby ddydd Gwener. Dechreuodd Neco Williams a Harry Wilson yn y golled annisgwyl a bydd yn rhaid i’r ddau aros tan y gêm yn erbyn Preston nos Fawrth am gyfle arall i selio pethau.

Chwaraeodd Tom Lawrence i Derby yn y fuddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn erbyn Fulham a chadwodd honno eu gobeithion main o aros yn y Bencampwriaeth yn fyw tan iddynt golli o gôl i ddim yn erbyn QPR ddydd Llun. Cadarnhaodd hynny eu tynged ac i wneud pethau’n waeth, cafodd Lawrence ei anfon oddi ar y cae yn yr eiliadau olaf.

Mae Bournemouth yn aros yn ail yn dilyn gêm ddi sgôr yn erbyn Middlesbrough a buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Coventry. Mae Kieffer Moore yn parhau i fod wedi’i anafu ac er nad oedd Chris Mepham yn y garfan ar gyfer y gêm gyntaf, daeth oddi ar y fainc am ychydig llai na hanner awr yn yr ail.

Huddersfield sydd yn drydydd diolch i gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn QPR a buddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Middlesbrough. Dechreuodd Sorba Thomas y ddwy gêm ond cael ei eilyddio ar hanner amser yn yr ail.

Mae Luton yn bedwerydd wedi buddugoliaethau o gôl i ddim yn erbyn Nottingham Forest a Chaerdydd. Eilydd hwyr oedd Tom Lockyer ddydd Gwener cyn chwarae’r gêm gyfan yn ei ddinas enedigol ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. Roedd Elliot Thorpe yn eilydd heb ei ddefnyddio yn erbyn Forest.

Ar ôl colli yn erbyn Luton, West Brom a oedd gwrthwynebwyr Nottingham Forest yn y gêm hwyr nos Lun. Dechreuodd Brennan Johnson y ddwy gêm ac roedd wedi sgorio un a chreu un arall cyn hanner amser wrth iddynt guro’r Baggies o bedair i ddim.

Sheffield United sydd yn cwblhau’r chwech uchaf er iddynt golli o ddwy gôl i un yn erbyn Reading a chael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Bristol City. Ar y fainc yr oedd Adam Davies a Rhys Norrington-Davies ar gyfer y ddwy gêm ac felly hefyd Andy King i Bristol City yn yr ail ag yntau’n dychwelyd wedi cyfnod hir gydag anaf.

Ym mhen arall y tabl, cadwodd Peterborough eu gobeithion main o aros yn y gynghrair yn fyw gyda buddugoliaethau o ddwy gôl i un yn erbyn Blackburn a dwy i ddim yn erbyn Barnsley. Dave Cornell a oedd yn y gôl ar gyfer y ddwy gêm.

Ennill un a cholli un a oedd hanes golwr arall o Gymru, Chris Maxwell, wrth i Blackpool golli o ddwy i un yn erbyn West Brom cyn curo Birmingham o chwe gôl i un.

Chwaraeodd Jordan James yn y gêm honno i Birmingham er nad oedd yn y garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Coventry dridiau ynghynt.

Cafodd Tom Bradshaw ugain munud fel eilydd i Millwall yn Preston ddydd Gwener cyn dechrau’r gêm a sgorio’r gôl fuddugol mewn buddugoliaeth o ddwy i un yn erbyn Hull ddydd Llun.

Dechreuodd Andrew Hughes i Preston yn y gêm honno a daeth Ched Evans oddi ar y fainc ac nid yw eu gêm nesaf hwy tan nos Fawrth yn erbyn Fulham.

Mae George Thomas yn cael rhediad da yn nhîm QPR yn ddiweddar a dechreuodd eu dwy gêm ddiweddaraf, y gêm gyfartal yn erbyn Huddersfield a’r fuddugoliaeth yn erbyn Derby.

Joe Allen a oedd yr unig un o Gymry Stoke i chwarae dros y penwythnos, yn chwarae 180 munud yn erbyn Bristol City a Blackburn. Daeth Ryan Hedges ymlaen fel eilydd hwyr i Blackburn yn y gêm honno, buddugoliaeth i Stoke o gôl i ddim.

 

*

 

Yr Adran Gyntaf

Nathan Broadhead a oedd seren Sunderland ddydd Gwener, yn sgorio dwy gôl yn erbyn yr Amwythig, gan gynnwys y gôl fuddugol yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm, tair i ddwy’r sgôr terfynol. Chwaraeodd y blaenwr y naw deg munud yn erbyn Plymouth ddydd Llun hefyd on gorffen yn ddi sgôr a wnaeth honno.

Roedd dau Gymro ymhlith y sgorwyr wrth i Rydychen guro Fleetwood o dair i un ddydd Gwener. Billy Bodin a rwydodd drydedd Rhydychen wrth iddynt ruthro ar y blaen yn y chwarter awr cyntaf cyn i Ellis Harrison dynnu un yn ôl i Fleetwood. Chwaraeodd Harrison yng ngêm ddi sgôr ei dîm yn erbyn Gillingham hefyd.

Nid oedd Chris Gunter yng ngharfan Charlton ar gyfer eu colled o dair i ddwy yn erbyn Morecambe ond chwaraeodd Adam Matthews y naw deg munud.

Roedd dwy fuddugoliaeth i Bolton, y naill o ddwy gôl i un yn erbyn Doncaster a’r llall o dair i un yn erbyn Accrington. Chwaraeoedd Gethin Jones, Declan John a Jordan Williams y ddwy gêm gyfan, gyda John yn creu un o’r goliau yn erbyn Donny.

A hwythau eisoes i lawr, cafodd Crewe fuddugoliaeth o dair i un yn erbyn Wimbledon gyda Dave Richards, Billy Sass-Davies, Zac Williams a Tom Lowery yn chwarae’r gêm i gyd.

Dechreuodd Regan Poole a Liam Cullen ddwy gêm Lincoln dros y Pasg, colled o dair i ddwy yn erbyn Portsmouth a buddugoliaeth o dair i ddim dros Cheltenham. Cullen a greodd ail ei dîm yn y gêm honno.

Owen Evans a oedd y golwr anffodus i Cheltenham, yn ildio pum gôl mewn dwy gêm, y golled yn erbyn Lincoln yn dilyn gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Gillingham.

Pedwar pwynt mewn dwy gêm a gafodd Portsmouth wrth iddynt ychwanegu gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Morecambe i’r tri phwynt yn erbyn Lincoln. Dechreuodd Joe Morrell y gêm gyntaf cyn cael ei eilyddio’n gynnar oherwydd anaf. Dechrau’r gyntaf a dod ymlaen fel eilydd yn yr ail a wnaeth ei gydwladwr, Louis Thompson.

Curo Plymouth o ddwy i ddim a chael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Wimbledon a oedd hanes Wycombe. Chwaraeodd Sam Vokes y ddwy gêm gan greu ail gôl ei dîm yn y gyntaf. Dechrau honno cyn disgyn i’r fainc ar gyfer yr ail a wnaeth Joe Jacobson.

Dechreuodd James Wilson a Luke Jeohcott i Plymouth yn erbyn Wycombe a daeth Ryan Broom i’r cae fel eilydd hanner amser. Dechreuodd Wilson y gêm ddi sgôr yn erbyn Sunderland hefyd gyda Jephcott yn eilydd hwyr y tro hwn.

Colli o gôl i ddim yn Rotherham a fu hanes Wes Burns yn unig gêm Ipswich ac nid oedd Lee Evans yn y garfan wrth i anafiadau barhau i lethu ei dymor.

Dechreuodd Gwion Edwards golled Wigan o ddwy gôl i un yn erbyn Caergrawnt ond cael ei eilyddio ar hanner amser.

 

*

 

Yr Ail Adran

Ildiodd Tom King deirgwaith yn nwy gêm Salford dros y penwythnos, colled o gôl i ddim yn erbyn Bristol Rovers a gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Barrow. Eilydd a oedd Liam Shephard yn y gêm gyntaf cyn dechrau’r ail.

Chwaraeodd Luca Hoole ac Aron Connolly i Rovers yn erbyn Salford ac roeddynt yn y tîm a gurodd Port Vale o dair i un hefyd, gyda Connolly’n rhwydo’r ail.

Eilydd a oedd Jonny Williams yn nwy gêm Swindon. Roeddynt eisoes dair gôl i ddim ar y blaen cyn iddo ddod i’r cae gyda hanner awr yn weddill yn erbyn Harrogate, pedair i un y sgôr terfynol. Cafodd chwarter awr yn fwy yn erbyn Leyton Orient ond colli o ddwy gôl i un a fu eu hanes.

Rhoddwyd cnoc i obeithion Casnewydd o gyrraedd y gemau ail gyfle, yn colli dwy allan o ddwy yn erbyn Crawley a Sutton, er gwaethaf gôl James Waite yn erbyn Crawley.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Roedd hi’n benwythnos rownd gynderfynol Cwpan yr Alban a dwy gêm ddarbi fawr i benderfynu pwy a fyddai’n mynd ymlaen i’r ffeinal.

Hearts aeth â hi o ddwy gôl i un yn erbyn Hibs ddydd Sadwrn. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Ben Woodburn i Hearts ac nid oedd Christian Doidge yng ngharfan Hibs.

Yr un a oedd y sgôr yn y gêm arall rhwng Celtic a Rangers wedi amser ychwanegol ddydd Sul a hynny o blaid Celtic. Dechreuodd Aaron Ramsey’r gêm i Rangers, fel y gwnaeth yn erbyn Braga yn Ewrop ganol wythnos, ond bu’n rhaid iddo adael y cae gydag anaf i linyn y gar toc cyn yr egwyl. Achos pryder i gefnogwyr Cymru gyda saith wythnos tan y gêm fawr ym mis Mehefin.

Mae gemau ail gyfle diwedd tymor Gwlad Belg yn fwy cymhleth na’r Cymru Premier hyd yn oed, â Cercle Brugge wedi gorffen y tymor arferol yn ddegfed, ymddengys fod tymor Rabbi Matondo wedi gorffen.

Mae gan Venezia chwe gêm ar ôl yn Serie A, a rheiny’n rhai pwysig hefyd â hwythau yn safleoedd y gwymp a chwe phwynt o ddiogelwch ar ôl colli o gôl i ddim yn erbyn Fiorentina. Nid oedd Ethan Ampadu yn y garfan ar gyfer y gêm honno oherwydd gwaharddiad. Roedd sïon yr wythnos hon yn cysylltu Ampadu â symudiad i Abertawe dros yr haf, cyn glwb ei dad a man geni ei fam wrth gwrs.

Ar ôl treulio rhan helaeth o’r tymor ar y brig, mae St. Pauli yn bygwth gwneud llanast o bethau yn y 2. Bundesliga. Maent bellach yn drydydd yn dilyn gêm gyfartal arall dros y penwythnos. Nid oedd James Lawrence yn y garfan.

Roedd Gareth Bale yng ngharfan Real Madrid ond gwylio o’r fainc a wnaeth yn ôl ei arfer wrth i’w dîm guro Sevilla gyda gôl hwyr arall gan y bytholwyrdd, Karim Benzema.