Mae Clwb Criced Morgannwg ac asiantaeth greadigol Spark wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i wneud criced yn fwy hygyrch i blant yng Nghymru.

Mae Spark bellach yn gefnogwr swyddogol o Lwybrau Talent y sir am y ddau dymor nesaf, gan fuddsoddi mewn dulliau o ddadansoddi perfformiad, ac fe fyddan nhw hefyd yn noddi Andrew Gorvin a Ruaidhri Smith, dau chwaraewr sydd wedi codi drwy rengoedd Morgannwg.

O ganlyniad i’r bartneriaeth, fe fydd Morgannwg yn ariannu cit ar ran rhieni sydd â phlant sy’n chwarae fel rhan o’r Llwybrau Talent.

“Rydym wrth ein bodd o allu cefnogi datblygiad doniau chwaraeon lleol a helpu Morgannwg i fuddsoddi mewn technoleg ar gyfer gwelliant parhaus y clwb,” meddai Anthony Blades o gwmni Spark.

“Rydym hefyd yn falch o gael helpu nod Morgannwg o leihau’r gost o gyfranogi i rieni.”

‘Cam enfawr ymlaen’

Fel rhan o’r bartneriaeth, fe fydd cyfle i rieni wylio’u plant drwy ffrwd byw newydd sbon.

“Mae hwn yn gam enfawr ymlaen i’n Llwybrau Talent, a hoffwn ddiolch i Anthony a phawb yn Spark am ymuno â ni fel cefnogwr swyddogol,” meddai Huw Warren o Glwb Criced Morgannwg.

“Nid yn unig y bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ddadansoddi perfformiad y plant ar y Llwybr, ond fe fydd e hefyd yn galluogi rhieni i wylio’u plant yn cynrychioli Morgannwg ar ffrwd byw, ac yn gwneud y gêm yn fwy hygyrch.”

Mae Clwb Criced Morgannwg yn dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o gricedwyr yng Nghymru, ac y bydd y bartneriaeth yn cyflymu’r weledigaeth drwy godi safonau proffesiynoldeb y rhaglen Llwybrau Talent.