Bydd holl gemau tîm rygbi dynion Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf yn cael eu cynnal ar brynhawn Sadwrn.

Iwerddon a Lloegr fydd yn ymweld â Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, gyda’r ornest yn erbyn Iwerddon ar Chwefror 4 yn dechrau am 2.15yp, a chic gynta’r gêm yn erbyn Lloegr ar Chwefror 25 am 4.45yp.

Fydd yr un gêm yn y gystadleuaeth eleni ar nos Wener, a fydd dim rhaid i Gymru chwarae ar ddydd Sul chwaith.

Taith i Gaeredin i herio’r Alban fydd ganddyn nhw ar yr ail benwythnos ar Chwefror 11, a honno’n dechrau am 4.45yp.

Daw’r gystadleuaeth i ben i dîm Wayne Pivac gyda thaith i Ffrainc ar Fawrth 18, a’r gêm honno’n dechrau am 2.45yp.

Tocynnau

Mae prisiau’r tocynnau’n amrywio o £40 i £130 ar gyfer y gemau yng Nghaerdydd, ac mae gostyngiad ym mhris y tocynnau yn yr ardal ddi-alcohol i £80 ar gyfer y gêm yn erbyn y Gwyddelod a £90 ar gyfer yr ornest yn erbyn y Saeson.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon yn codi hyd at £120, a’r gêm yn erbyn Lloegr at £130.

Bydd tocynnau ar gael i aelodau Clybiau Undeb Rygbi Cymru, tocyn tymor oes ac aelodau Premiwm y mis yma, ac mae lletygarwch a phecynnau teithio eisoes ar werth.

Y gemau’n llawn

Cymru v Iwerddon, Chwefror 4, 2.15yp

Yr Alban v Cymru, Chwefror 11, 4.45yp

Cymru v Lloegr, Chwefror 25, 4.45yp

Yr Eidal v Cymru, Mawrth 11, 2.15yp

Ffrainc v Cymru, Mawrth 18, 2.45yp