Mae tîm criced Morgannwg yn anelu i aros ar frig Ail Adran y Bencampwriaeth, wrth iddyn nhw groesawu Middlesex i Gaerdydd heddiw (dydd Iau, Ebrill 21).

Does dim newid i’r garfan, ac mae’n debygol y bydd y wicedwr Chris Cooke yn chwarae yn ei ganfed gêm dosbarth cyntaf i’r sir.

Cododd y sir Gymreig i’r brig ar ôl buddugoliaeth o saith wiced dros Swydd Nottingham yr wythnos ddiwethaf, ac maen nhw wedi cipio 34 o bwyntiau yn eu dwy gêm gyntaf, sydd hefyd yn cynnwys gêm gyfartal yn erbyn Durham.

Mae’r bowliwr cyflym o Abertawe, James Harris wedi gwella o salwch ar ôl gorfod colli’r gêm yn Trent Bridge, ond fe allai ddychwelyd i herio’r clwb lle treuliodd e naw tymor rhwng 2013 a 2021 cyn dod adref i Gymru ar gyfer y tymor hwn.

Lai na mis ers i’r Awstraliad Marnus Labuschagne, batiwr tramor Morgannwg, a Shaheen Shah Afridi, bowliwr cyflym Pacistan, herio’i gilydd ar y llwyfan rhyngwladol, mae disgwyl gornest fywiog arall rhwng y ddau yng Ngerddi Sophia dros y pedwar diwrnod nesaf.

Ailadrodd y perfformiad yn erbyn Swydd Nottingham?

Mae Matthew Maynard, prif hyfforddwr Morgannwg, yn awyddus i’w dîm ailadrodd eu perfformiad yn erbyn Swydd Nottingham wrth iddyn nhw herio Middlesex yr wythnos hon.

“Dydi hynny ddim bob amser yn wir, ond wrth fynd i mewn i’r gêm hon yn erbyn Middlesex, mi fyddwn ni’n llawn hyder, dim gormod, ond cadw at y pethau sylfaenol fel ddaru ni wneud cystal yn y gêm yn erbyn Notts,” meddai.

“Mae gennon ni un neu ddau chwaraewr efo man anafiadau, felly fe wnawn ni weld.

“Ddaru James Harris golli’r gêm ddiwethaf a bydd o’n cael ei ystyried.

“Mae hi’n anodd i unrhyw un o’r bowlwyr rheng flaen chwarae yn y chwe gêm gefn wrth gefn, mater o gyfathrebu efo nhw ydi o.

“Mae’n bosib ga’ i bedair gêm allan o un bowliwr, pump allan o fowliwr arall, tair allan o un arall.

“Wnawn ni weld sut mae’n mynd a sut maen nhw’n gorfforol.

“Y peth braf am chwaraeon ydi, os ydach chi’n ennill, dydych chi ddim yn teimlo’n flinedig ac felly os ydan ni’n parhau i berfformio fel hyn, gobeithio y bydd y bowlwyr yn gorffwys digon rhyngddyn nhw fel y gallan nhw fowlio’u pelawdau mewn gemau yn hytrach nag wrth ymarfer.”

‘Teimlad rhyfedd’

Mae James Harris yn dweud y bydd yn “deimlad rhyfedd” pan fydd yn wynebu ei hen glwb ar ôl treulio naw mlynedd yn Llundain.

“Fy ffrindiau gorau yw llawer o’r bois yn y tîm hwnnw lle dw i wedi treulio’r naw mlynedd diwethaf gyda nhw i fyny yng ngogledd Llundain,” meddai.

“Bydd e’n brofiad rhyfedd, ond yn un dw i’n edrych ymlaen yn fawr ato, a bydd hi’n braf gweld ambell wyneb cyfarwydd.

“Mae Morgannwg wedi cael wythnos arbennig. Mae mynd i Trent Bridge yn erbyn tîm sydd wedi’u henwi’n ffefrynnau yn yr Ail Adran cyn dechrau’r haf a dod i ffwrdd ar ôl perfformiad cryf iawn a buddugoliaeth, yn gadael blas da yng nghegau pawb, a theimlad positif ynghylch lle maen nhw a lle mae’r tîm.

“Mae’n fater o adeiladu ar hynny, a byddwn ni’n trio gwneud hynny eto yr wythnos hon wrth i ni ddechrau arni.

“Mae cael bod yn ôl ym Morgannwg yn wych. Mae’n teimlo fel oes yn ôl.

“Alla i ddim credu sut oedd dechrau’n 16 neu’n 17 oed a pha mor bell i ffwrdd mae hynny nawr, 15 neu 16 o flynyddoedd yn ôl.

“Dw i wedi newid llawer, dw i wedi tyfu i fyny eitha’ tipyn.

“Dw i’n colli rhywfaint o wallt o gymharu â phryd hynny, ond dw i’n teimlo bod gyda fi lawer o flynyddoedd ar ôl.

“Dw i eisiau cyfrannu, a dw i wedi cyffroi’n fawr o gael bod yn ôl yn ne Cymru. Mae cael y teulu yma gyda fi’n wych, maen nhw’n mwynhau. Ar y cyfan, mae wedi bod yn wych hyd yn hyn.

“Dw i yma i chwarae, dw i yma i fowlio llawer o belawdau ac i gyfrannu gyda’r bat a’r bêl ym mhob gêm y galla i.

“Dw i ddim yn hoffi colli allan ar gemau criced, a cholli allan yr wythnos ddiwethaf, dydy e byth yn brofiad braf i chwaraewr proffesiynol.

“Dw i eisiau chwarae bob wythnos, a gobeithio y galla i wneud hynny drwy gydol y flwyddyn ac aros yn y tîm a phrofi fy ngwerth gyda fy mherfformiadau.”

Gemau’r gorffennol

Mae 31 o flynyddoedd ers i Forgannwg guro Middlesex yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.

Yn y fuddugoliaeth honno yn 1991, gêm a gafodd ei chwtogi gan y glaw, cipiodd Steve Barwick a Mark Frost bedair wiced yr un wrth i Forgannwg ennill o 129 o rediadau.

Dyna’u hunig fuddugoliaeth mewn 15 o gemau yn erbyn Middlesex yng Ngerddi Sophia a chyn hynny, dim ond un fuddugoliaeth gawson nhw mewn naw o gemau yn erbyn yr un gwrthwynebwyr ar Barc yr Arfau cyn symud i’w cartref presennol yn 1966, a honno o 86 o rediadau yn 1950.

Ers eu buddugoliaeth ddiwethaf yng Nghaerdydd yn 1991, maen nhw wedi colli saith a chael dwy gêm gyfartal – gan golli o fatiad a mwy yn 1997, 1998 a 2005.

Yn eu gêm ddiwethaf yng Nghaerdydd, cipiodd Middlesex fuddugoliaeth swmpus o 256 o rediadau diolch i naw wiced Toby Roland-Jones, gyda Dawid Malan a Sam Robson yn taro canred yr un.

Carfan Morgannwg: D Lloyd (capten), K Carlson, C Cooke, D Douthwaite, J Harris, M Hogan, M Labuschagne, M Neser, S Northeast, A Salter, C Taylor, T van der Gugten, J Weighell

Carfan Middlesex: P Handscomb (capten), Shaheen Shah Afridi, M Andersson, E Bamber, J de Caires, T Helm, J Holden, S Robson, T Roland-Jones, J Simpson, M Stoneman, T Walallawita, R White

Sgorfwrdd