Mae Clwb Pêl-droed Pwllheli yn manteisio ar brosiect celf graffiti arbennig i brofi eu bod nhw’n fwy na dim ond clwb pêl-droed.

Mae pobol ifanc y dref a’r cyffiniau wedi bod yn creu murlun graffiti, diolch i gydweithio rhwng Ieuenctid Gwynedd, Clwb Pêl Droed Pwllheli a Heddlu’r Gogledd.​​​​​​​

Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Ieuenctid Gwynedd ac yn rhannol gan PACT Heddlu’r Gogledd.

Yn cydweithio ar y prosiect, a oedd yn rhoi cyfle i bobol ifanc ddysgu sgiliau graffiti drwy greu murlun ar gyfer y gymuned, roedd Andrew Owen, Gweithiwr Ieuenctid ardal Dwyfor; Adrian Miles Williams a Chris Williams, Swyddogion Clwb Pêl droed Pwllheli; Geraint Williams a Sarah Hughes Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu; a’r arlunydd Andy Birch o Dime One Grafiti.

Drwy’r prosiect, mae Clwb Pêl-droed Pwllheli wedi bod yn awyddus i ddangos eu bod nhw’n agored ac ar gael i’r holl gymuned, nid dim ond i bobol ifanc sydd â diddordeb mewn pêl-droed.

“Roeddem ni fel clwb eisiau codi ymwybyddiaeth fod y Clwb yma yn fwy na Chlwb Pêl droed ac yn Glwb i’r gymuned i gyd,” meddai Chris Williams.

“Mae cydweithio gydag Ieuenctid Gwynedd yn profi ac yn dangos ein bod yn agored i holl bobol ifanc cymuned Pwllheli, os ydynt gyda diddordeb mewn pêl droed neu beidio.

“Rydym yn awyddus i gydweithio ar brosiectau ar gyfer pobol ifanc y gymuned at y dyfodol ac i wahanol wasanaethau ac asiantaethau ddod a phrofiad a sgiliau gwahanol i’r prosiectau.

“Diolch mawr i Andrew ac Ieuenctid Gwynedd am gydlynu’r digwyddiad yma, a diolch i’r bobol ifanc ac Andy Birch, mae’r murlun yn wych’. Hoffwn hefyd ddiolch i bobol ifanc yr ardal am eu hymdrech a’u Gwaith yn ystod y prosiect.”

‘Gofod i’r gymuned i gyd’

“Rwyf wedi mwynhau’r profiad yma,” meddai Jesse Dobson, un o’r bobol ifanc fu’n cymryd rhan yn y prosiect.

“Nid wyf yn mynychu’r cae pêl-droed yma yn aml, gan o’n i’n meddwl ’na ’mond ffwtbol oedd yma. Rŵan dw i’n deall drwy Ieuenctid Gwynedd a’r clwb fod y lle yma yn ofod i’r gymuned i gyd.

“Rwyf wedi mwynhau’r gweithgaredd yma ac yn falch iawn o’r cyfle i fod yn rhan o brosiect cymunedol yn fy ardal dw i eisiau dweud diolch i Ieuenctid Gwynedd am y cyfle i gymdeithasu a dysgu sgiliau newydd.”

Mae Ieuenctid Gwynedd, Clwb Pêl-droed Pwllheli a’r Heddlu yn awyddus i barhau i gydweithio gyda’i gilydd at y dyfodol.

“Mae Gweithwyr Ieuenctid yn gweithio’n galed i ddarparu cyfleoedd i bobol ifanc ddatblygu sgiliau personol, cymdeithasol ac addysgol mewn cymunedau ledled Gwynedd,” meddai Annette Ryan, Arweinydd Gwaith Cymorth Ieuenctid.

“Mae’r prosiect yma yn enghraifft ardderchog o beth sydd yn gallu digwydd wrth cyd-weithio mewn partneriaeth gydag eraill mewn cymunedau.

“Mae pobol ifanc Pwllheli a’r Cylch yn wych, ac yn haeddu pob cyfle i gallu cymdeithasu, cael hwyl, dysgu sgiliau a gyrraedd eu llawn botensial, enwedig ar ol y dwy flynedd diwethaf.

“Rydym yn hynod o falch i gyd-weithio gyda Clwb Pel droed Pwllheli i codi ymwybyddiaeth bod y Clwb yn agored i bawb ac yn Glwb i’r gymuned holl.   Edrychwn ymlaen rwan i ddatblygu ac ymuno mewn sawl prosiect cyffroes eraill mae pobl ifanc yn awyddus i gael.”