Ar drothwy Dydd Sant Jordi – diwrnod cariadon Catalwnia – ddydd Sadwrn (Ebrill 23), fe ddaeth i’r amlwg nad oes gan ddeg allan o 12 ardal dlotaf dinas Barcelona siop lyfrau.

Fel rhan o’r diwrnod cenedlaethol, yn ogystal â rhoi rhosod mae pobol yn rhoi llyfrau i’w gilydd i nodi’r dyddiad pan fu farw’r awdur Miguel de Cervantes yn 1616.

Mae ymchwil wedi’i wneud gan Asiantaeth Newyddion Catalwnia yn dangos mai dim ond mewn dwy o’r ardaloedd, Raval a Besòs i Maresme, mae yna siop lyfrau.

Yn y cyfamser, mae yna siop lyfrau mewn 61% o’r ardaloedd mwyaf llewyrchus, er mai dim ond 33% o’r boblogaeth gyfan sy’n byw yno.

Does dim siop lyfrau mewn 25 allan o 73 cymdogaeth Barcelona, ac mewn 21 o’r ardaloedd hynny mae incwm pobol yn is na’r cyfartaledd.

Er mwyn ceisio datrys y sefyllfa, mae’r Gymdeithas Siopau Llyfrau’n galw am agor mwy o siopau yn yr ardaloedd tlotaf er mwyn rhoi rheswm i bobol fynd yno i wario’u harian.

Yn ôl Albert Recio, dirprwy lywydd Ffederasiwn Cymdeithasau Cymdogaethau Barcelona, mae yna gysylltiad rhwng tlodi a mynediad pobol at y diwylliant llenyddol.

“Mae hi’n ddigon cyffredin fod gan ardal sydd ag incwm is y pen lai o ganolfannau diwylliannol,” meddai.

Ffactor arall sydd wedi cael effaith ar brinder siopau llyfrau yw fod llyfrau a phapurau newydd ar gael fwyfwy ar-lein erbyn hyn, ac mae hynny wedi arwain at fusnesau’n mynd i’r wal.

Yn ôl Albert Recio, mae hyn yn golygu bod mwy o rôl gan ysgolion a chyrff cyhoeddus i lenwi llyfrgelloedd lleol fel bod “pobol sydd eisiau darllen ond nad oes ganddyn nhw ddigon o arian yn gallu mynd i’r llyfrgell”.