Mae Tafwyl wedi cyhoeddi’r artistiaid fydd yn chwarae yn Tafwyl eleni, wrth i’r digwyddiad ddychwelyd i Gastell Caerdydd ar Fehefin 18 ac 19.

Roedd y trefnwyr, Menter Caerdydd, eisoes wedi cyhoeddi enwau Swnami, Yws Gwynedd, Adwaith, Eadyth + Asha Jane, Glain Rhys, Tara Bandito, Ynys, Gareth Bonello a Kizzy Crawford, ynghyd â’r DJs Esyllt, Gareth Potter, Garmon, Mirain a Palmerviolet.

Yn cwblhau’r rhestr mae Gwilym, Breichiau Hir, N’famady Kouyaté, Hana Lili, Mellt, Mei Gwynedd, Ciwb, Morgan Elwy, Cerddorfa Ukelele, Bwncath, Meinir Gwilym, Burum, Lily Beau, Parisa Fouladi, Blodau Papur, Cowbois Rhos Botwnnog, Thallo, Avanc, Eve Goodman a Mari Mathias.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal heb gyfyngiadau eleni ar ôl sawl blwyddyn dan gysgod Covid-19, ac mae’n dal i fod yn rhad ac am ddim i bawb dros y penwythnos.

Bydd wythnos Ffrinj Tafwyl yn cael ei chynnal rhwng Mehefin 12-17, gyda’r holl fanylion i’w cyhoeddi’n fuan.

Bydd cerddoriaeth mewn dau brif le, sef Y Brif Lwyfan a’r Sgubor, a bydd Radio Cymru’n darlledu’n fyw o’r Prif Lwyfan yn ystod dydd Sadwrn, gyda’r holl arlwy wedi’i guradu gan Glwb Ifor Bach.

“Ni’n hynod o falch i fod yn cyd-weithio gyda Menter Caerdydd ar yr arlwy gerddorol yn Tafwyl eto eleni,” meddai’r prif weithredwr Guto Brychan.

“Mi fydd e’n wych gweld y castell dan ei sang wrth i ni groesawi pobl o Gaerdydd a thu hwnt i ddod i fwynhau dau ddiwrnod arbennig o gerddoriaeth a celfyddyd Cymraeg.

“Rydym hefyd yn edrych ymlaen i’r digwyddiadau ffrinj yn y Clwb dros gyfnod Tafwyl ac yn gobeithio cyhoeddi’r manylion ar ei cyfer yn fuan.”

‘Lein-yp anfarwol’

“Gyda Tafwyl yn dychwelwyd nol i Castell Caerdydd unwaith eto eleni i gapasiti arferol, mae hi wedi bod yn bleser llwyr gallu cydweithio gyda Clwb Ifor Bach i guradu lein-yp anfarwol ar draws pedair llwyfan gwahanol,” meddai Caryl McQuilling, prif swyddog Tafwyl.

“Mae Tafwyl yn ymfalchio o allu cyflwyno y bandiau mwyaf poblogaidd yng Nghymru, ynghyd a rhoi llwyfan i’r artistiaid newydd a chyfoes yn y sin gerddoriaeth, gan hefyd parhau i fod yn ŵyl sydd am ddim ac yn agored i bawb.”

Mae Menter Caerdydd yn dweud eu bod yn “hynod o falch” o gael Tafwyl yn ôl gyda thorf fawr eleni.

Bydd yr amrywiaeth o fandiau, sgyrsiau, gweithgareddau celfyddydol a digwyddiadau i blant a phobol ifanc yn golygu bod Tafwyl 2022 yn ddathliad arbennig o’r Gymraeg yng Nghaerdydd,” meddai Heulyn Rees, prif weithredwr Menter Caerdydd.

Mae Tafwyl yn derbyn cyllideb trwy Llywodraeth Cymru, Digwyddiadau Mawr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Loteri Genedlaethol, Cyngor Prydeinig, Cyngor Caerdydd, Prifysgol De Cymru, BBC Radio Cymru, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac eraill.