Mae dau oedd yn adnabod Y Chwaer Bosco wedi talu teyrnged iddi, yn dilyn ei marwolaeth yn ddiweddar.

Gwyddeles o leian Babyddol oedd Nora Gabriel Costigan, yn ôl Alun Ifans, sy’n dweud ei bod hi’n “ffrind triw a gwarchodol” i’r bardd Waldo Williams.

Dywed iddo ddod i’w hadnabod pan oedd e’n Brifathro Casmael yn Sir Benfro, a hithau wedi dod i’r ysgol am ddau reswm, meddai.

“Yn gyntaf i weld yr Hen Ysgol ble bu Waldo yn Brifathro o 1940 i 1942, ac yn ail i weld yr oriel luniau,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n rhyfedd fel y gwna ambell i atgof fynnu glynu yn y cof ac mae ymweliad Y Chwaer Bosco ag Ysgol Casmael yn dal yno.

“Dwi’n cofio ei thywys o gwmpas yr Oriel a sgwrsio am ei hatgofion o Waldo.”

Yn 1959, roedd hi’n brifathrawes ar Ysgol y Fair Ddihalog yn Hwlffordd, ac ymunodd hi a’r Chwaer Ignatius â dosbarth nos Waldo Williams ar lenyddiaeth Gymraeg, ac i ddysgu Cymraeg.

“Dywedodd fod Waldo yn athro penigamp ac yn un didwyll, caredig bob amser ac yn ddyn annwyl iawn.

“Weithiau byddai yn drist ac yn isel ei ysbryd, ond pan y byddai yn ei afiaith, mawr fyddai’r hwyl a’r sbri.

“Cofiai am Waldo yn sôn am weld adar y glannau yn yr aber ger y dderwen gam a chapel Millin ar dir Castell Picton, sydd rhwng Arberth a Hwlffordd.

“Cerddai Waldo yn oriau mân y bore o Hwlffordd i lawr at gapel Millin, roedd drws y capel ar agor bob amser.

“Byddai yn gorwedd a phendwmpian ar un o’r meinciau a chodai gyda’r wawr, a mynd i wrando’r chwibanwyr gloywbib yn eu cynefin. Clywodd rhywun ei fod yn cysgu yn y capel a’r tro nesaf fe gafodd fod drws dan glo.”

Iwerddon yn gyffredin

A hithau’n Wyddeles, roedd Y Chwaer Bosco yn rhannu diddordeb yn Iwerddon gyda Waldo, meddai.

“Roedd gan Waldo ddiddordeb yn llenyddiaeth a hanes Iwerddon ac wrth ei fodd yn ymweld ag Ynys Werdd,” meddai.

“Cofiai hi amdano ar ganol gwers gyda’i ddisgyblion yn ei ddosbarth nos yn Hwlffordd, yn dweud ei fod am orffen y wers yn gynnar er mwyn iddo ddal y llong ganol nos o Harbwr Abergwaun i Rosslare, Iwerddon.

“Ymhen pythefnos, cawson nhw hanes ei helyntion yng ngwald enedigol y Chwaer Bosco.

“Bu rhaid i Waldo rhoi gorau i’w ddosbarthiadau nos am ei fod yn sefyll fel ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru yn Sir Benfro yn etholiad 1959, cafodd 2,253 o bleidleisiau. Pan ddaeth yn ôl i’r dosbarth fe gydymdeimlodd Y Chwaer Bosco gyda Waldo am iddo fethu ennill, chwerthin wnaeth Waldo a dweud, ‘It’s better here than Westminster’.

“Buodd hi’n driw ac yn gefn ysbrydol i Waldo i’r diwedd, roedd hi â W R Evans cyfaill agos, Dilys chwaer Waldo a Benni Lewis wrth ei wely yn Ysbyty St. Thomas, Hwlffordd yn ystod ei awr olaf ar Fai 20, 1971.”

‘Person â chryn ddyfnder iddi’

“Roedd y Chwaer Bosco yn berson â chryn ddyfnder iddi,” meddai wedyn.

“Gwyddai fwy na fyddai neb yn ei feddwl am bynciau lu. Roedd wedi’i gwreiddio’n ddwfn ym mhridd Cymru ac Iwerddon.

“Mae bywyd yn llawer tlotach hebddi, ond diolch sydd gen i am gael ei chwmni am ychydig oriau yn Ysgol Casmael.”

‘Neb yn nabod Waldo’n well’

Yn ôl Hefin Wyn, sydd hefyd wedi bod yn siarad â golwg360 am Y Chwaer Bosco, doedd neb yn adnabod Waldo Williams yn well na hi.

‘’Mae enaid Waldo wedi esgyn ar Ddydd Iau Dyrchafael’ meddai’r Chwaer Bosco pan fu farw Waldo Williams yn 67 oed ar 20 Mai 1971,” meddai.

“Pum deg un mlynedd yn ddiweddarach, priodol ei bod hithau wedi’i ddilyn ar Sul y Blodau eleni, Ebrill 10 yn ei 90au hwyr.

“Doedd neb yn nabod Waldo’n well na’r Wyddeles. Roedd hi’n fawr ei gofal ohono ac yn ei ymgeleddu yn ystod ei salwch olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd. Ai yno i’w fwydo â llwy.

“Trefnodd ddisgyblion Ysgol y Fair Ddihalog i adrodd ‘Pitran, Patran’ o amgylch ei wely.

“Gwnâi’n siŵr fod y goeden fach honno mewn potyn yn cael ei gadw ar fwrdd wrth ymyl ei wely yn symbol o deitl ei unig gyfrol o farddoniaeth, Dail Pren.

“Trefnodd ddisgyblion yr ysgol drachefn i osod nyth aderyn ger y potyn fel symbol o’i gariad tuag at Linda, ei wraig, a gollodd o fewn dwy flynedd i’w priodas. Hi oedd ei angor.”

Roedd y Cymro a’r Wyddeles “yn eneidiau cyt­ûn”, meddai wedyn, gan awgrymu rhywbeth mwy na chyfeillgarwch.

“Tybed, oni bai iddi gymryd yr urddau fel lleian, a fyddai’r ddau wedi priodi? Byddai wedi bod yn uniad cymharus. Y Babyddes a ddysgai Gymraeg yn nosbarthiadau’r Crynwr, ac yntau â’i ddiddordeb ysol yn yr Ynys Werdd a’i fryd ar gyfansoddi un awdl fawr am arwyr y Gwyddyl megis Terence MacSweeney a chymeriadau y chwedlau.

“Pan alwais i’w gweld yng Nghwfaint Chwiorydd Trugaredd yn Cahir goleuodd ei hwyneb dim ond ynganu’r enw ‘Waldo’. Llifodd yr atgofion, y melys a’r chwerw, am ddyn a ystyriai oedd y peth agosaf posib at sant.

“Fel llawer i un arall o’i chenedl a adwaenai Waldo, soniodd am stori’r bara soda.

“Mynych pan fyddai yna drafodaeth ddwys am dynged Iwerddon ymhlith deallusion a rhywun yn troi at Waldo gan ofyn iddo beth gredai oedd rhagoriaeth y wlad, ei ateb fyddai ‘y bara brown’.

“Dyna lle gorweddai ei anwyldeb yn ôl Nora Costigan Bosco. “Doedd ganddo ddim gwerthoedd materol”, meddai.

“Newydd farw mae un arall a anwylai Waldo hefyd sef y Crynwr David Redpath yn 90 oed. Cydaddolent yn Nhŷ’r Cyfeillion ym Milffwrd. Clywid elfen o ryfeddod yn llais David bob amser pan soniai am ei gyfaill.”