Mae Hywel Williams yn dweud ei fod e wedi trosglwyddo nifer o gwynion i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ar ôl iddo yntau dderbyn cwynion am awyrennau’n hedfan “yn eithriadol o isel” dros ardal Caernarfon.

Yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, fe fu’r awyrennau’n hedfan yn isel dros y dref, yn ogystal â phentrefi Bontnewydd, Rhostryfan a Rhosgadfan toc ar ôl 10 p’r gloch fore heddiw (dydd Gwener, Ebrill 22).

Dywed fod yr awyrennau wedi achosi “cryn dipyn o sŵn a dirgrynu”, ac nad oedd yr hediadau wedi cael eu trefnu ymlaen llaw, yn ôl gwefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Hoffwn wybod, felly, pam fod yr awyrennau wedi gweld yn dda i hedfan mor isel a pham fod yr hediadau hyn wedi’u cynnal y tu allan i’r amserlen swyddogol,” meddai yn ei lythyr at Ben Wallace, Ysgrifennydd Amddiffyn San Steffan.

“Mae’r fath gampau’n creu sŵn, niwsans ac ofn, a dydyn nhw ddim yn dderbyniol.

“Ar ôl croesawu nifer o ffoaduriaid Wcreinaidd i Arfon, rwy’n ei chael yn syfrdanol y byddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn credu bod y fath hediadau diangen heb eu hamserlennu yn dderbyniol yn yr hinsawdd sydd ohoni.

“Dyn a ŵyr beth mae’r teuluoedd hyn sydd eisoes wedi wynebu trawma yn ei feddwl.”