Daeth cadarnhad y bydd IndyFest Wrecsam yn cael ei chynnal ar benwythnos gorymdaith Pawb Dan Un Faner Cymru a YesCymru drwy’r dref ar Orffennaf 2.

Ar y nos Wener, bydd Bryn Fôn yn perfformio yn nhafarn y Saith Seren ac ar fore’r orymdaith, bydd stondinau a gweithgareddau ar hyd strydoedd y dref cyn i’r dorf ymgasglu ym mharc Llwyn Isaf.

Ar ôl dychwelyd i’r parc ar ddiwedd yr orymdaith, bydd siaradwyr a bandiau yn annerch y dorf cyn cloi’r penwythnos gyda gig mawr.

Roedd tair gorymdaith wedi eu cynllunio ar gyfer 2020, y gyntaf yn Wrecsam ym mis Mai, ond cafodd ei gohirio yn sgil y pandemig Covid-19.

‘Dwy flynedd hir o aros’

“Mae hi wedi bod yn ddwy flynedd hir o aros ond rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobol o bob rhan o Gymru, a thu hwnt, i Wrecsam yn yr haf,” meddai Pol Wong ar ran IndyFest Wrecsam.

“Bydd hi’n gyfle i ni brofi Wrecsam mewn Cymru rydd am benwythnos o leiaf!

“Mae sawl peth cyffrous wedi ei gynllunio ar gyfer y penwythnos yn barod, ac mae mwy ar y gweill felly cadwch lygad am ddiweddariadau.”

Wrth sôn am y cynlluniau dywedodd Llywelyn ap Gwilym am ar ran AUOB Cymru bod y gorymdeithiau’n mynd o nerth i nerth.

“Dim ond tair gorymdaith rydyn ni wedi eu trefnu hyd yma, ond maen nhw wedi tyfu bob tro,” meddai.

“Mae rhywbeth arbennig am ddod ynghyd i orymdeithio ac mae pobl yn ysu am gael gwneud eto.

“Rydyn ni wedi cefnogi pobl leol i drefnu pob gorymdaith a dydyn nhw ddim wedi siomi.

“Hon fydd yr orymdaith fwyaf uchelgeisiol ac rydyn ni’n edrych ymlaen i gydweithio gydag IndyFest Wrecsam i wireddu eu cynlluniau.”

Mae YesCymru yn gweld yr orymdaith yn gyfle i ailgydio yn yr ymgyrch dros annibyniaeth yn genedlaethol.

“Mae’n grwpiau lleol ni wedi cynnal fflam YesCymru dros y flwyddyn ddiwethaf,” meddai Phyl Griffiths ar ran y mudiad.

“Byddwn ni’n gweithio gyda’r grwpiau yn lleol ac yn rhanbarthol i drefnu digwyddiadau ac ymgyrchu drwy’r flwyddyn, ond hwn fydd y digwyddiad torfol cyntaf ers dwy flynedd felly rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan ohono.”