Mae Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru’n rhybuddio na fydd cydraddoldeb rhwng ymgeiswyr gwrywaidd a benywaidd tan 2050.
Daw hyn wrth iddyn nhw ymateb i “arafwch” y broses o gael mwy o gydraddoldeb rhwng dynion a menywod mewn gwleidyddiaeth.
Mae ffigurau newydd yn dangos bod rhaid gwneud mwy o waith yn y maes, wrth i ymgyrchwyr alw ar gynghorau i gyflwyno camau positif i geisio cynyddu nifer y menywod sy’n mentro i’r byd gwleidyddol.
Dim ond un ym mhob tri ymgeisydd ar gyfer yr etholiadau lleol eleni sy’n fenyw, sy’n gynnydd o 4% ers yr etholiadau diwethaf yn 2017.
Os yw cyfradd y cynnydd yn parhau yn yr un modd, fydd dim cydraddoldeb tan 2050, yn ôl arbenigwyr, sy’n tynnu sylw hefyd at y 200 a mwy o wardiau lle mai dynion yn unig sy’n ymgeisio.
Yng Ngheredigion, er enghraifft, bydd pleidleiswyr mewn 18 ward yn gorfod dewis o blith dynion yn unig, sef y diffyg cydraddoldeb gwaethaf yn unman yng Nghymru. Ar draws y sir, dim ond 22% o ymgeiswyr sy’n diffinio’u hunain fel menywod.
I’r gwrthwyneb, Sir Fynwy sydd â’r nifer fwyaf o fenywod – 45% o’r holl ymgeiswyr – er mai’r nod oedd cyrraedd 50%.
Fydd gan yr un o’r pum prif blaid gydraddoldeb llwyr, ond menywod yw 46% o ymgeiswyr y Blaid Werdd, o’i gymharu â 41% Llafur.
Mae ymgyrchwyr bellach yn galw am greu rhestrau menywod i gyd, ac am weithredu Adran 106 Deddf Cydraddoldeb 2010, sy’n gorfodi’r awdurdodau i gasglu a chyhoeddi data ynghylch nodweddion sydd wedi’u gwarchod.
Er i’r ddeddf gael ei phasio yn 2010, does neb wedi gweithredu arni eto.
‘Mesurau gwirfoddol wedi methu’
Yn ôl Evelyn James, Rheolwr Ymgyrch 5050Amrywiol gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, mae mesurau gwirfoddol i fynd i’r afael â’r sefyllfa wedi methu “o ystyried mai dim ond 33.5% o’r ymgeiswyr sy’n sefyllf yn yr etholiadau llywodraeth leol sy’n fenywod”.
“Bellach, mae angen cwotâu cyfreithiol arnom yn fwy nag erioed er mwyn sicrhau bod o leiaf 50% o ymgeiswyr yn fenywod, gyda mesurau amrywiaeth cadarn i sicrhau bod llwyodraeth leol Cymru’n adlewyrchu’r boblogaeth mae’n ei gwasanaethu,” meddai.
“Mae’r glymblaid 5050 Amrywiol yn galw ar bleidiau gwleidyddol i weithredu Adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a fyddai’n gofyn bod yr holl bleidiau gwleidyddol yn cyhoeddi data amrywiaeth ynghylch ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiadau.”
‘Ffigurau sy’n destun pryder’
“Dylai’r ffigurau hyn fod yn destun pryder i unrhyw un sy’n poeni am gynrychiolaeth gyfartal yng ngwleidyddiaeth Cymru,” meddai Jessica Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru.
“Mae arafwch y newid cyflymdra wrth gynyddu nifer y menywod sy’n sefyll mewn etholiadau’n golygu ein bod ni’n annhebygol o weld cydraddoldeb rhwng dynion a menywod yn ein cynghorau lleol tan 2050.
“Mae ein hawdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau pwysig am yr ardaloedd lle’r ydyn ni’n byw a gweithio ond eto, dydyn nhw ddim yn adlewyrchu’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
“Mae’r angen i weithredu i wella cynrychiolaeth i fenywod yn ein cynghorau’n amlwg i’w weld.
“Mae angen i ni achub ar y cyfle a chyflwyno mesurau gweithredu positif, megis cwotâu a thargedau os ydyn ni wir am wneud cynnydd o ran cynrychiolaeth.
“Mae angen hefyd, ar frys, i ni roi mesurau data cryfach yn eu lle, fydd yn gofyn bod pleidiau’n casglu a chyhoeddi data ar amrywiaeth eu hymgeiswyr, gan gynnwys nodweddion sydd wedi’u gwarchod megis hil ac ethnigrwydd, anableddau, oedran a rhywioldeb.
“Bydd cael y data hwn yn ein helpu ni i adnabod lle mae angen i ni gymryd camau i wella cynrychiolaeth i bobol ddu ac ethnig lleiafrifol, pobol ag anableddau a’r gymuned LHDTC+.”
Chwarae Teg yn mynegi siom
Mae Chwarae Teg hefyd wedi mynegi eu siom fod cyn lleied o fenywod yn sefyll yn yr etholiadau lleol fis nesaf.
“Er gwaetha’r cynnydd bach ers 2017 yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer llywodraeth leol sy’n fenywod, dydy 33.5% jyst ddim yn ddigon da,” meddai Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil Chwarae Teg.
“Mae’r holl bleidiau gwleidyddol wedi cael hen ddigon o amser i fynd i’r afael â chynrychiolaeth anghyfartal i fenywod ar lefel leol.
“Tra bod yna rai enghreifftiau o bleidiau gwleidyddol yn cymryd camau i sicrhau amrywiaeth eu hymgeiswyr a chefnogi ystod ehangach o bobol i sefyll etholiad, aeth yr amser am eiriau cynnes heibio.
“Rhaid i ni weld gweithredu gan bleidiau a sefydliadau gwleidyddol i sicrhau bod ein cynghorau’n gytbwys o rhan rhyw ac wir yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru.
“Mae angen i fwy o fenywod o liw, menywod ag anableddau a menywod LHDTC+ gael eu hethol i’r sefydliadau sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd.
“Mae’r atebion i’r broblem hon yn gwbl hysbys.
“Mae angen i ni wella prosesau dethol y pleidiau a dileu rhagfarn, mae angen defnydd eang o gamau positif i sicrhau bod menywod yn cael eu dewis mewn seddi y gellir eu hennill.
“Mae angen i ni gynnal mesurau sy’n agor ein sefydliadau gwleidyddol i fyny, megis mynychu o bell, tra’n cyflwyno ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys rhannu swyddi.
“Mae gosod targedau a chyhoeddi cynlluniau gweithredu ynghylch sut y bydd targedau’n cael eu cyrraedd hefyd yn rhan bwysig o’r ateb.
“Rydym yn aros i weld faint o fenywod fydd yn cael eu hethol yn etholiadau mis Mai, ond o ystyried mai dim ond traean o’r ymgeiswyr sy’n fenywod, mae’n anochel na fyddwn ni’n cyrraedd y nod o lywodraeth leol gytbwys o ran rhyw ac sy’n gwbl gynrychioladol yn yr etholiadau hyn.
“Allwn ni ddim, a rhaid i ni beidio â bod yn yr un sefyllfa ymhen pum mlynedd.”