Ar Ddiwrnod Stephen Lawrence, mae Comisiynydd Heddlu’r Gogledd yn galw am “adeiladu ar waddol” y bachgen a gafodd ei lofruddio yn Llundain ar Ebrill 22, 1993.

Ar y diwrnod cenedlaethol i “ysbrydoli cymdeithas fwy cydradd a chynhwysol ac i feithrin cyfleoedd i bobol ifanc ar y cyrion yn y Deyrnas Unedig”, mae Andy Dunbobbin wedi rhannu ei neges gyda thrigolion yn y gogledd, yn enwedig y rheiny sydd o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd eraill.

Cafodd Stephen Lawrence ei lofruddio yn 18 oed yn dilyn ymosodiadau hiliol yn Llundain, ac fe gymerodd rai degawdau i’r teulu gael cyfiawnder.

“Heddiw, wrth i ni nodi Diwrnod Stephen Lawrence a’r 29 mlynedd ers ei lofruddiaeth drasig ac ofnadwy ar 22 Ebrill 1993, rydym yn cofio bywyd, marwolaeth a gwaddol Stephen a gwaith ymgyrchu urddasol ei deulu a’i ffrindiau, sydd i gyd wedi arwain at newid mawr am hawliau gwell ledled ein gwlad,” meddai Andy Dunbobbin yn ei neges ddwyieithog.

“Roedd marwolaeth Stephen yn drobwynt yn y berthynas rhwng yr Heddlu a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn y Deyrnas Unedig.

“Gwnaeth Adroddiad Macpherson, a ddilynodd yn 1999, daflu goleuni ar yr hiliaeth sefydliadol a’r anghyfartaledd sy’n effeithio llawer o’n cyd-ddinasyddion.

“Ers hynny, mae llawer o waith wedi’i wneud er mwyn ceisio gwella plismona, ymgysylltu a chynrychioli cymunedau gwahanol ledled y Deyrnas Unedig.

“Ond mae llawer eto i’w wneud er mwyn sicrhau fod ein sefydliadau cyfraith a threfn yn cynrychioli ein gwlad heddiw cymaint â phosibl, ac mae hyn yn brif flaenoriaeth i mi fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

“Yng ngogledd Cymru, rydym wedi addo gwella hyder ein cymuned Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn yr heddlu a chynyddu cynrychiolaeth ymysg ein swyddogion a staff.

“Mae 22 Ebrill yn parhau i’n hatgoffa ni gyd y daw newid sy’n bwysig i bawb yn ein cymuned o boen a thrasiedi fawr.

“Mewn plismona, fel ym mhob man mewn cymdeithas, dylem gofio ac ychwanegu at y gwaddol hwn mewn ffordd adeiladol bob dydd wrth i ni gofio Stephen Lawrence.”