Gyda 100 diwrnod i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, mae tocynnau Maes ar gyfer y Brifwyl yn Nhregaron yn mynd ar werth heddiw (dydd Iau, Ebrill 21).

Byddan nhw ar werth o 10 o’r gloch fore heddiw, ac mae modd archebu tocynnau dyddiol ac wythnosol o wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru.

Yn ôl y prif weithredwr Betsan Moses, mae cryn edrych ymlaen at gyrraedd Ceredigion o’r diwedd, ar ôl sawl Eisteddfod heb Faes yn sgil Covid-19.

“Fe fydd hi’n dair blynedd ers i ni ddod at ein gilydd ar Faes y Brifwyl, ac rydyn ni, fel pawb arall yn edrych ymlaen yn arw at weld y Maes o dan ei sang yn Nhregaron,” meddai.

“Rydw i am ddiolch o waelod calon i drigolion Ceredigion a’n gwirfoddolwyr i gyd am eu hamynedd a’u brwdfrydedd dros y ddwy flynedd diwethaf.

“Maen nhw’n dal i awchu i gynnal yr Eisteddfod.  Mae’u cefnogaeth nhw i ni fel staff wedi bod yn arbennig iawn wrth i ni fynd ati i ail-drefnu’r Maes a’n holl weithgareddau.

“Pleser felly yw cyrraedd y garreg filltir bwysig hon heddiw, gyda thocynnau’n mynd ar werth.”

“Er fod prisiau popeth, o danwydd i chwyddiant ac o ddeunyddiau i adeiladau wedi codi’n aruthrol ers 2019, ry’n ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni wedi llwyddo i gadw prisiau tocynnau yr un fath ag Eisteddfod Sir Conwy nôl yn 2019.

“Felly ewch ati i brynu, i edrych ymlaen ac i bori drwy’r rhaglenni pan fyddan nhw’n cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin.”

Cofio Richard a Wyn, Ail Symudiad

“Mae’r byd wedi newid cymaint ers Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2020 yn nhref Aberteifi nôl yn haf 2019,” meddai Betsan Moses wedyn.

“Cafwyd perfformiad arbennig o gân newydd sbon gan y ddau frawd lleol, Richard ac Wyn, Ail Symudiad, ar y Maen Llog fel rhan o’r seremoni.  Mae’n anodd credu ein bod ni wedi colli’r ddau dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’r teulu a chwmni Fflach am ganiatáu i ni ddefnyddio’r gân a berfformiwyd yn y seremoni, Ceredigion, Môr a Thir, ar gyfer hysbyseb newydd fydd i’w weld ar draws ein sianeli digidol, ar ein gwefan ac ar ein sianel YouTube o heddiw ymlaen.

“Dyma’r tro cyntaf i’r gân gael ei rhyddhau, ac mae’r geiriau a’r gerddoriaeth yn gweddu’n berffaith i’n neges ninnau, fod croeso cynnes i bawb yn harddwch Ceredigion eleni.”

Tocynnau

Am y tro cyntaf, bydd ymwelwyr yn gallu argraffu tocynnau Maes o gartref neu defnyddio’u ffôn clyfar i gael mynediad i’r Maes.

Mae hyn yn rhan o strategaeth gynaliadwyedd sydd am weld y sefydliad yn arloesi ym maes arferion digwyddiadau cynaliadwy yma yng Nghymru, gan sicrhau allyriadau sero net a dim gwastraff erbyn 2025.

Bydd manylion a thocynnau cyngherddau a gweithgareddau nos yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir, gyda chyhoeddiadau eraill yn cael eu cynnwys yn y cylchlythyr ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae modd cofrestru i dderbyn y cylchlythyr o dudalen flaen y wefan, www.eisteddfod.cymru.

Dydd Sul 1 Mai yw’r dyddiad cau ar gyfer y cystadlaethau llwyfan, ac mae’r rhain i gyd i’w gweld ar-lein, www.eisteddfod.cymru/cystadlaethau.

Mae ambell stondin ac uned yn Artisan yn dal i fod ar gael ar gyfer yr wythnos, ac mae’r manylion i gyd ar y we.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael ei chynnal ar gyrion Tregaron o Orffennaf 30 i 6 Awst.