Bydd cyfres o ffilmiau am hanes chwareli llechi Cymru a’u cysylltiad â chaethwasiaeth yn cael eu dangos mewn sinemâu dros y wlad eleni.
Mae’r pecyn yn cynnwys ystod o ffilmiau, rhai o’r archif a rhai mwy diweddar, sy’n edrych ar effaith y chwareli ar gymunedau a’u cysylltiadau â phrosiectau trefedigaethol ehangach dan arweiniad yr Ymerodraeth Brydeinig.
Bwriad y tymor ffilm ‘To Llechi ar gyfer Pob Tŷ’ ydy edrych ar sefyllfa gymhleth Cymru fel aelod trefedigaethol ac un a elwodd ar y cyfoeth a gafodd ei greu gan yr Ymerodraeth Brydeinig drwy gynhyrchu llechi.
Bydd ffilmiau megis Slate Quarrying o 1946, sy’n darlunio bywyd gwaith yn Chwarel y Penrhyn ym Methesda, a Cut Me Loose, ffilm bersonol gan y bardd rap a’r hanesydd David Brown – sydd o gefndir Cymreig a Jamaicaidd – yn rhan o’r arlwy.
‘Hen gymdeithas amlddiwylliannol’
I lansio’r prosiect, sydd wedi’i drefnu rhwng Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Ffilm Cymru, bydd panel o siaradwyr arbenigol yn cynnal sgwrs am yr hanes.
Mae’r panel yn cynnwys y curadydd ffilm Yvonne Connikie; Charlotte Williams, awdur Sugar and Slate; y cyn-chwarelwr Emlyn Roberts; a’r hanesydd ac anthropolegydd diwylliannol Abu-Bakr Madden Al Shabazz.
Dywed Abu-Bark Madden Al Shabazz fod gweld hanes Cymru ar y sgrin yn dangos y cyfoeth sydd gan orffennol y genedl ar ei datblygiad cymdeithasol a gwleidyddol yn y 21ain ganrif.
“Mae gan Gymru fel cenedl a hanes Cymru fel pwnc, hen gymdeithas amlddiwylliannol oherwydd ei chysylltiadau gyda masnach cyn ac yn ystod diwydianeiddio,” meddai.
“Fe fydd darlunio dimensiwn amlddiwylliannol cymdeithas Gymreig yn cynnal cywirdeb wrth gofnodi ein gorffennol, gan ddangos cynhwysiant ein cenedl fodern a’r hyn y mae’r holl grwpiau wedi ei gyfrannu dros amser.”
‘Edrych yn ddyfnach’
Cafodd y prosiect ei ddatblygu yn dilyn y cyhoeddiad y llynedd fod Statws Treftadaeth y Byd UNESCO wedi’i roi i dirwedd llechi’r gogledd-orllewin.
‘‘Mae cyhoeddiad treftadaeth y byd UNESCO yn arwyddocaol i Gymru,” meddai Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru.
“Mae’n rhoi cyfle anhygoel i ddathlu ei hanes balch o chwareli llechi ar y sgrin drwy gasgliad diddorol o ffilmiau.
“Mae’n hanfodol hefyd ein bod yn edrych yn ddyfnach a rhoi cyd-destun i straeon llai adnabyddus o ran llafur y dosbarth gweithiol a’r Fasnach Gaethwasiaeth Atlantig.
“Mae’r daith yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd ddarganfod elfennau o ddiwylliant Cymreig sydd yn sylfaenol i bwy ydyn ni.”
Cafodd llawer o gyfoeth perchnogion caethweision fel yr Arglwydd Penrhyn ei ddefnyddio i ehangu chwareli’r gogledd ac adeiladu rhai o drefi a dinasoedd yr ardal.
‘Ein gorffennol a’n dyfodol’
Dywed Iola Baines o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru fod yr archif yn gweithio’n galed i sicrhau bod cynulleidfaoedd Cymreig o bob oed yn gallu cael mynediad i’w treftadaeth sgrin.
“Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gyda Chanolfan Ffilm Cymru i ddod â ‘To o Lechi i bob Tŷ’ yn fyw – o’r ffilmiau archif byr yn dangos bywydau chwarelwyr i’r Chwarelwr (y ffilm siarad Gymraeg gyntaf erioed) a ffilmiau dogfen yn cysylltu llechi a gwladychiaeth,” meddai.
“Mae’r ffilmiau yma yn amlygu pwysigrwydd pobol, lleoedd a digwyddiadau Cymru na ddylid fyth eu hanghofio.
“Mae ffilmiau archif Cymreig yn cynnwys ein gorffennol a’n dyfodol – dyma sut y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn gallu cael mynediad i’w diwylliant a’u hanes.
“Mae’n hanfodol bod ein gwaith yn parhau i gael ei gefnogi a’i fod yn hygyrch i’r cyhoedd drwy sinemâu.”
Mae sinemâu ar draws Cymru yn bwriadu cynnal gweithgareddau ar y thema llechi ar hyd y flwyddyn, gan gynnwys Gŵyl Ffilm Chwarel yn CellB ym Mlaenau Ffestiniog gyda dau benwythnos o weithgareddau ar y thema.
Y bwriad yw dangos ffilmiau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant llechi a chaethwasiaeth, ym Mae Colwyn, Aberystwyth, y Bermo, a thrwy rwydwaith Off y Grid sy’n dangos ffilmiau mewn saith lleoliad yn y gogledd.