Bydd S4C yn darlledu cyngerdd nos Sadwrn (Ebrill 23) i ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu label recordiau Fflach, ac i gofio am y brodyr Richard a Wyn, y sylfaenwyr oedd hefyd yn perfformio fel Ail Symudiad.

Ymhlith y grwpiau sydd wedi cael budd mawr o’r label dros y degawdau mae Y Ficar, Eryr Wen, Malcolm Neon, Angylion Stanley, Y Diawled, Rocyn a Maffia Mr Huws.

“Mae’r cyfraniad mae Fflach wedi’i wneud – yn gerddorol i gynifer o artistiaid ac i’r sîn roc yng Nghymru’n gyffredinol wedi bod yn amhrisiadwy,” meddai’r darlledwr a chyflwynydd Richard Rees.

Gwilym Bowen Rhys mewn cyngerdd i ddathlu pen-blwydd Fflach yn 40

Mewn rhaglen arbennig, Fflach: Dathlu’r 40 nos Sadwrn, bydd cyfle i wylio’r noson a gafodd ei chynnal yn ddiweddar yn Theatr Mwldan, Aberteifi, oedd yn cynnwys perfformiadau gan rai o artistiaid y label, gan gynnwys Catsgam, Gwilym Bowen Rhys, Ryland Teifi, Einir Dafydd, Lowri Evans, Gwenda Owen a Llio Rhydderch.

Cafodd Ail Symudiad eu ffurfio yn 1978, gyda Fflach wedi’i sefydlu dair blynedd yn ddiweddarach gan weithio allan o festri capel ar y dechrau.

Rhoi Aberteifi ar y map

Yn ystod y rhaglen, cawn glywed llu o atgofion gan lawer o artistiaid am y ddau frawd a gyfrannodd cymaint i ddiwylliant poblogaidd Cymru.

“Mewn gwirionedd, beth oedd gyda chi oedd dau foi cyffredin iawn o rywle fel Aberteifi wnaeth pethau anghyffredin iawn, achos roddon nhw Aberteifi ar y map yng Nghymru yn sicr,” meddai Richard Rees.

“Pan y’ch chi’n meddwl am rai o’r enwau blaenllaw ry’n ni’n gyfarwydd â nhw erbyn hyn ar y sin roc yng Nghymru – Jess, Dom, Diawled – fydden nhw falle ddim wedi cael y cyfle gydag unrhyw gwmni recordiau arall ar y pryd.

“Oedd yna neb llai tebygol i rock stars na Richard ac Wyn Fflach.

“Oedd eu traed nhw ar y ddaear hyd yn oed pan oedd eu pennau nhw yn y cymylau.

“Y dre a’i phobol oedd eu siarad â’u consyrn nhw. Y dre a’r bobl odd testun eu caneuon nhw – lot fawr ohonyn nhw.

“Ac er eu bod nhw wedi cwmpasu cymaint mwy na hynny, er eu bod nhw wedi creu cerddoriaeth, creu busnes oedd yn adnabyddus trwy Gymru, Aberteifi oedd curiad calon y ddau ohonyn nhw”.

Atgofion melys hefyd sydd gan y gantores Einir Dafydd am ei chyfnod yn dechrau recordio yn stiwdio Fflach.

“Erbyn bo fi’n fy arddegau, ro’n i a ‘nghefndryd, Dafydd ac Osian, wedi dechrau band gyda’n gilydd, ac wedyn roedden ni’n cael y cyfle i fod gyda Richard a Wyn i recordio – roedden ni mor lwcus,” meddai.

“Roedden ni’n cael egwyl i ginio – a dyna oedd uchafbwynt Wyn, cael mynd i’r dre’. Ac roedd cerdded rownd Aberteifi gyda Wyn jest fel cerdded rownd gyda celebrity; roedd pawb yn nabod e.

“Meddwl nôl – dyddiau da.”