Bu Côr yr Urdd yn canu mewn eglwys yn Alabama yn yr Unol Daleithiau neithiwr (Ebrill 19) i ddathlu’r Pasg.

Cafodd y perfformiad ei gynnal yn Eglwys y Bedyddwyr, 16th Street yn Birmingham, Alabama yn sgil cysylltiad Cymru â’r eglwys.

Cafodd perthynas Urdd Gobaith Cymru a chymuned Affro Americanaidd Birmingham ei sefydlu dros hanner canrif yn ôl yn sgil ymosodiad ar yr eglwys, ac mae’r mudiad ieuenctid wedi teithio yno i berfformio a dysgu am hanes y mudiad hawliau sifil a chanu gospel.

Mae’r côr yn cynnwys enillwyr Eisteddfod T 2021, yn ogystal â chanwyr eraill a gafodd eu dewis drwy broses glyweliadau agored.

‘Ymasiad diwylliannol’

Wrth ddiolch i Pastor Price a phawb yn yr eglwys, dywedodd yr Urdd ei bod hi’n fraint i’r Côr fod yn rhan o Wasanaeth y Pasg.

“Byddan ni’n cynnal y cyfeillgarwch ddechreuodd pobol Cymru yn 1963 i’r dyfodol,” meddai’r Urdd.

“Bydd canu Y Tangnefeddwyr yn rhywbeth na wnawn ni fyth ei anghofio.”

Dywedodd adran Llywodraeth Cymru yng Ngogledd America, bod y gwasanaeth yn “ymasiad diwylliannol yn dathlu’r cysylltiad rhwng Birmingham a phobol Cymru”.

Y berthynas

Cafodd y berthynas rhwng Cymru a chymuned Affro Americanaidd Alabama ei ffurfio yn 1963 yn dilyn ymosodiad terfysgol gan y Klu Klux Klan ar Eglwys y Bedyddwyr, 16th Street pan gafodd pedair o ferched rhwng 11 a 14 oed eu lladd.

Fel arwydd o gefnogaeth ac undod, rhoddodd pobol Cymru ffenestr liw i’r eglwys, ac mae’n cael ei hadnabod hyd heddiw fel y ‘Wales Window’.

Fe wnaeth ymweliad swyddogol Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, a Gweinidog Addysg Cymru ar y pryd, Kirsty Williams, â’r eglwys a phobol ifanc Birmingham yn 2019 gryfhau’r berthynas.

O ganlyniad, roedd Côr Gospel Prifysgol Alabama wedi bwriadu ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn 2020, ond ni ddigwyddodd hynny yn sgil y pandemig.

Mae’r ymweliad â’r Unol Daleithiau yn cyd-fynd â chanmlwyddiant yr Urdd eleni, ac yn rhan o’r dathliadau hynny.

Enillwyr Eisteddfod T yn ffurfio Côr yr Urdd i deithio i Alabama

Cafodd y berthynas â chymuned Affro Americanaidd Birmingham, Alabama ei ffurfio dros hanner canrif yn ôl yn dilyn ymosodiad terfysgol y Klu Klux Klan