Bydd un o wyliau celfyddydau anabledd cynhwysol mwyaf Ewrop yn dychwelyd i Gymru dros yr haf.
Fe fydd Gŵyl Undod yn dod â pherfformwyr ag anableddau ac enghreifftiau o theatr gynhwysol ynghyd yng Nghaerdydd, Bangor, a Llanelli gyda dros 100 o ddigwyddiadau dros 17 diwrnod ym mis Mehefin a mis Gorffennaf.
Hon fydd y ddegfed ŵyl o’i math i gael ei chynnal gan Hijinx, un o gwmnïau theatr gynhwysol mwyaf Ewrop.
Bydd perfformwyr o fyd theatr, dawns, comedi, cabare, ffilm, a theatr stryd o bedwar ban byd yn cymryd rhan yn yr ŵyl eleni, gan gynnwys Kitsch n Sync, Drag Syndrome, Avant Cymru gydag Ill-Abilities, Cheryl Beer, a Mind the Gap o Loegr.
‘Arddangosiad rhyfeddol’
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Hijinx a churadur Gŵyl Undod, Ben Pettitt-Wade, eu bod nhw’n falch o ail-lansio’r ŵyl yng Nghymru eleni ar ôl bwlch o bum mlynedd.
“Byddwch yn barod am lawer o theatr, dawns, comedi, ffilm a theatr stryd naid cyffrous, a chynhyrchiad hybrid newydd,” meddai Ben Pettitt-Wade.
“Bydd yn arddangosiad rhyfeddol o gelf ragorol o bob math gan berfformwyr ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth a bydd yn cynnwys actiau o Gymru, y Deyrnas Unedig, bob rhan o Ewrop a thu hwnt.”
Bydd nifer o’r perfformiadau ar gael i’w gweld ar-lein, a bydd yn cynnwys rhaglen o gynnwys wedi’i recordio o flaen llaw yn ogystal â pherfformiadau fydd yn cael eu ffrydio’n fyw o’r ŵyl.
“Mae’n rhywbeth cwbl newydd i’n digwyddiad ni ac rydym yn gyffrous iawn i rannu blas ar ein gwyliau gyda chynulleidfaoedd newydd a chreu opsiwn hygyrch i bobol efallai na allant fod yn bresennol wyneb yn wyneb,” meddai Ben Pettitt-Wade.
‘Talent aruthrol’
Ychwanegodd Artist Cyswllt Hijinx, Richard Newnham: “Rwy’n credu bod Gŵyl Undod yn gweithio oherwydd ei bod yn arddangos y dalent aruthrol efallai na fyddai’r cyhoedd yn ymwybodol ohoni fel arall.
“Dyma gyfle perffaith i weld amrywiaeth eang o actorion, digrifwyr a dawnswyr dawnus ar lefel mor amrywiol a rhyngwladol.”
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng Mehefin 16 a Gorffennaf 2, gan symud rhwng Canolfan Mileniwm Cymru, Porters, Canolfan Gelfyddydau Chapters a’r Aes yng Nghaerdydd, Pontio ym Mangor, a Ffwrnes yn Llanelli.
Am y tro cyntaf, bydd Gŵyl Ffilmiau yn cael ei chynnal fel rhan o’r ŵyl, gan arddangos rhai o’r enghreifftiau diweddar gorau o waith ffilm cynhwysol o Gymru a thu hwnt.
Bydd dyddiau olaf yr ŵyl yn cyd-fynd ag Wythnos Anabledd Dysgu Mencap, a bydd Hijinx yn ymuno â Mencap Cymru i gyflwyno Drag Syndrome, sef criw drag sy’n cynnwys brenhinoedd a breninesau drag â syndrom Down.
Mae Celfyddydau Anabledd Cymru a Hijinx wedi comisiynu dan newydd o gelfyddyd hefyd, a bydd Solidarity of Hope yn gweithio ar y prosiect a fydd yn cael ei berfformio yn yr ŵyl.
Bydd y prosiect yn gweithio gyda deg artist gydag anableddau o Gymru i greu’r digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal yn Llanelli a’i ffrydio ar-lein.