Mae Richard Parks, yr anturiaethwr a chyn-chwaraewr rygbi, yn dweud iddo gael ei orfodi i deimlo’n llai Cymreig yn yr ysgol am ei fod yn dod o gefndir hil-gymysg.

Ac yntau wedi hen arfer â brwydrau corfforol ar y cae rygbi ac ymgymryd â heriau peryglus fel anturiaethwr, mae her o fath gwahanol yn ei wynebu ar S4C heno (nos Sul, Ebrill 17, 8 o’r gloch), wrth iddo fynd ati i ddysgu Cymraeg gyda chymorth Lowri Morgan, cyn-chwaraewr rygbi arall sydd hefyd yn rhedwraig ultra-marathon ac yn gyflwynydd teledu.

Roedd Richard Parks yn adnabyddus fel chwaraewr rygbi i glybiau Casnewydd, Pontypridd a Perpignan yn Ffrainc, ac fe enillodd e bedwar cap dros Gymru cyn gorfod ymddeol yn 2009 oherwydd anaf.

Ar ôl iddo wella yn gorfforol ac yn feddyliol, dechreuodd e ar antur nesaf ei fywyd, sef torri record byd fel y person cyntaf i ddringo copa’r saith mynydd uchaf ym mhob un o’r saith cyfandir.

Felly mae e’n gyfarwydd â wynebu heriau, ond roedd yn eitha’ pryderus ar ddechrau ei daith i ddysgu Cymraeg.

“Fel dyn sy’n dod o etifeddiaeth gymysg, roeddwn i’n cael fy ngwneud i deimlo yn llai Cymreig yn yr ysgol,” meddai.

“Dwi eisiau i Fred, fy mab, fyw mewn gwlad lle mae mwy o bobol yn siarad Cymraeg.

“Mae siarad Cymraeg yn bwysig i fi – mae hyn yn rhan o rywbeth mwy i fi a fy nheulu. Wrth gwrs gall person fod yn Gymro balch heb orfod siarad Cymraeg yn rhugl.

“Ond ro’n i wedi teimlo erioed bod rhan o fy hunaniaeth ar goll.

“Nawr fy mod i’n dad, dwi eisiau cyfrannu at y Gymru mae fy mab yn mynd i dyfu i fyny ynddi, ac mae hyn wedi rhoi’r dewrder i mi afael yn yr her.”

Mae Lowri Morgan hithau’n gweld tebygrwydd rhyngddi hi a Richard Parks hefyd.

“Dwi wedi nabod Richard ers blynyddoedd maith,” meddai.

“Ni’n eitha’ tebyg – mae’r ddau ohonom ni wedi chwarae rygbi rhyngwladol, y ddau ohonom ni wedi cael anafiadau difrifol ac wedyn y ddau ohonom ni yn mynd mewn i’r byd anturio.

“Dyn ni wedi trafod mynd ar antur gyda’n gilydd ond do’n i ddim cweit yn disgwyl antur fel hyn!”

Heriau

Yn ystod y daith, bydd Richard Parks, gyda help Lowri Morgan (a Nel y ci!) yn rhoi sesiwn hyfforddi i dîm Clwb Rygbi Dolgellau, yn clywed stori Gelert y ci ym Meddgelert, yn adeiladu wal cerrig sych, ac yn gwneud syrffio ffoil ar y Fenai.

Bydd Richard Parks hefyd yn ymuno ag Ameer Davies-Rana yn Ysgol Gynradd Beddgelert wrth i Ameer roi gweithdy am yr iaith Gymraeg fel rhan o’r ymgyrch i annog mwy o blant i siarad Cymraeg er mwyn bwrw targed Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae gan y cyn-chwaraewr rygbi dasg arbennig iawn ar gyfer ei her gyfryngol – rhywbeth arall sy’n hollol newydd i’r anturiaethwr – ond bydd rhaid gwylio Iaith ar Daith ar nos Sul i ddarganfod mwy!

Y Parchedig Kate Bottley yn dysgu Cymraeg gyda Jason Mohammad

Y cyd-gyflwynwyr radio fydd y pâr cyntaf yn y gyfres newydd o ‘Iaith Ar Daith’ heno (nos Sul, Ebrill 10)